Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliadau 16 a 53

ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Diffiniadau

1.  Yn yr Atodlen hon —

(a)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(c)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(ch)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(d)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(dd)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd);

(e)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion —

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5);

(f)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(g)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(ng)ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

(g)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(h)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol —

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys —

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

(i)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.

Myfyriwr cymwys annibynnol

2.  Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos —

(a)lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)lle mae wedi bod yn briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch)lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(dd)pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(1) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(e)lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai —

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;

(f)lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff)lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ng)lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod —

(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;

(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol —

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac —

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,075 yn cael ei ddidynnu —

(a)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn heblaw'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol —

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(2) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(3), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw —

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (4) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

5.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir —

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

(c)o dan is-baragraff (2).

beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm —

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd —

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol —

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni yn byw gyda'i gilydd fel hyn; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

8.—(1Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,100 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £23,100; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,100, dim.

(2Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £10,755 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £10,755; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £10,755, dim.

(3Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,610 mewn unrhyw achos.

(4Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,610.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

9.—(1Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw —

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £38,810, £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £38,810; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £38,810 neu lai, dim.

(2Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £5,910.

(3Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £5,910.

(5Mae'r is -baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Rhannu cyfraniadau- myfyrwyr cymwys nad ydynt yn annibynnol

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol.

(2Mae is-baragraffau (3) i (7) yn gymwys pan fo'r plant sy'n fyfyrwyr cymwys i gyd naill ai'n fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn neu i gyd yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.

(3Am unrhyw flwyddyn pan fo gan y canlynol ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4)—

(i)mwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys;

(ii)rhiant y myfyriwr cymwys; neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw'r cyfryw gyfran o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall cysylltiedig yn ei hystyried yn gyfiawn o gymryd i ystyriaeth gymhwyso paragraff 7 o'r Atodlen hon i fyfyrwyr cymwys newydd a myfyrwyr presennol yn y drefn honno.

(4Yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Grantiau Gorfodol) 2003(5) neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(6) (a dim dyfarniad statudol arall) gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y plant sy'n dal dyfarniad statudol perthnasol.

(5Os na fyddai'r cyfraniad, o ganlyniad i'r dosrannu o dan is-baragraff (4), yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn lle hynny—

(i)yn gyntaf mewn perthynas â'r dyfarniad statudol lleiaf (neu bob un dyfarniad statudol o'r fath) y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo; a

(ii)yna, yn nhrefn gynyddol maint, mewn perthynas â phob dyfarniad statudol sy'n weddill ac y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo, hyd oni ellir dosrannu balans y cyfraniad yn gyfartal heb fod unrhyw ran ohono'n weddill neu hyd oni na fydd yn weddill unrhyw ran o unrhyw ddyfarniad statudol na chymhwyswyd y cyfraniad iddi.

(6Os —

(a)oes partner gan riant y myfyriwr cymwys yr asesir ei incwm o dan yr Atodlen hon;

(b)bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol y rhiant hwnnw'n daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i naill ai'r rhiant hwnnw neu i'w bartner; a

(c)na fydd y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath yn mhob achos,

cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (7).

(7Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, mae'r cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) o is-baragraff (6) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy ac os na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniad statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys ar eu haelwyd berthnasol.

(8Os—

(a)bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i'r rhiant hwnnw neu i bartner y rhiant hwnnw; a

(b)nad yw'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath ym mhob achos oherwydd bod rhai o'r myfyrwyr cymwys yn fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a rhai yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd,

cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (9).

(9Pan fo is -baragraff (8) yn gymwys, bydd y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff (8) neu (9) wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-baragraff (8) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy a phan na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniadau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan yr hen drefn pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac i grantiau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan y drefn newydd pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.

(10Pan fo cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un o blant y rhiant hwnnw neu bartner y rhiant hwnnw, os oes partner, a bod incwm gweddilliol unrhyw fyfyriwr cymwys o'r fath yn fwy na dim, cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys heb gyfeirio at baragraff 4 ond fel arall yn unol â'r Atodlen hon ac fe'i dosrennir rhwng pob myfyriwr cymwys yn unol â'r paragraff hwn;

(b)yna cymhwysir yn ychwanegol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys gyfraniad pellach o £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi'r swm a gyfrifir mewn perthynas â'r myfyriwr o dan baragraff (c) o'r is-baragraff hwn yn uwch na £23,100 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd;

(c)y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn yw cyfanswm unrhyw symiau a gyfrifir o dan baragraffau 4, 5 a 7 (lle y bo'n briodol) o'r Atodlen hon gyda'r swm (os oes swm) sy'n peri bod cyfanswm y symiau a gyfrifir o dan baragraffau 5 a 7 yn uwch na £23,100 wedi'i ddidynnu pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12), at ddiben cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir i incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant, unrhyw swm sy'n weddill —

(a)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw'n fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan y paragraff hwn.

(12Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(i) o'r Atodlen hon, cyfrifir y symiau a gaiff eu hadio at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (11) o'r paragraff hwn fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a chyfrifwyd y cyfraniad ar y sail honno mewn gwirionedd ai peidio.

(13Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd berthnasol” (“relevant household”) yw'r holl fyfyrwyr cymwys hynny y cyfrifir cyfraniad mewn perthynas â hwy drwy gyfeirio at yr un incwm o dan baragraffau 5 a 7.

Rhannu cyfraniadau — myfyrwyr cymwys annibynnol

11.—(1Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol heblaw dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;

(b)yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi mae ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(7) neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(8) (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;

(c)pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan y drefn newydd.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill —

(a)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b)os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.

(3Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.

(2)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10 and the Income Tax (Trading and other Income) Act 2005, Atodlen 1. Ni ddaeth diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.

(4)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(6)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p.58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Glwadol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 ac 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (yr Alban) 2004 (Addasiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources