Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Gordaliadau

73.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 65(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.

(3Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —

(a)drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Mae taliad o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(5Y “dyddiad perthnasol (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8), ceir gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau yw—

(a)mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant myfyriwr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol;

(b)gwneir taliad grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(9Pan fo gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources