- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.
(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys —
(a)os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;
(b)os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu
(c)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (7).
(7) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac —
(a)bod y sefydliad hwnnw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus pan ddarparwyd y cwrs; neu
(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.
(8) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(a)sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;
(b)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;
(c)na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac
(ch)nad yw'n absennol o'r cwrs heblaw yn ystod gwyliau.
(9) Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: