Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Cymorth at gyrsiau rhan-amser

65.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw —

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol —

(i)y grant sylfaenol, a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.

(2Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

  • Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran

    No math image to display

    os

    • PT yw nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

    • FT yw—

      (a)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

      (b)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall y byddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.

(3At ddibenion paragraff (2)—

(a)mae “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) i'w dehongli; ac

(b)mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo

yn unol â rheoliad 70.

(4Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw —

(a)£605 os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

(b)£725 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

(c)£905 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn —

(a)mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais —

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1) i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor; neu

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(2) i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(3) i gael lwfans y fargen newydd;

(b)os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(c)os yw'r incwm perthnasol yn £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);

(ch)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £15,715 ond yn llai na £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

(d)os yw'r incwm perthnasol yn £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;

(dd)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £23,700 ond yn llai na £24,315, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);

(e)os yw'r incwm perthnasol yn £24,315 neu fwy ond yn llai na £26,260, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £2.00 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £24,315;

(f)os yw'r incwm perthnasol yn £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;

(ff)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).

(6Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol —

(a)£50 plws £1 arall am bob £15.92, £12.79 neu £9.94 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £15,715 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

(b)os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).

(7At ddibenion y rheoliad hwn —

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(d)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8);

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(f)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner —

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

(ff)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(8At ddibenion y rheoliad hwn —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai —

(i)£2,000 mewn perthynas â'i bartner;

(ii)£2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;

(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(c)ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

(1)

1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3 a'r Ddedff Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), Atodlen 24.

(2)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6 and the Civil Partnership Act 2004 (c. 33), Atodlen 24..

(3)

1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'u hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. 19) gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources