Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Cyfnod cymhwystra

64.—(1Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (2) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 69 neu 70; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(8Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 73.

(9Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a

(b)ac eithrio o dan baragraff (5),

caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y mae'n penderfynu arno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources