- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
60.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal o grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill gordal o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid yw o'r farn nad yw'n briodol iddo wneud hynny.
(4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordal o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;
(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i'w gyfnod cymhwystra ddod i ben neu cyn iddo gael ei derfynu.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b)gwneir taliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben neu iddo gael ei derfynu.
(8) Os oes gordal o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
(9) Caniateir adennill unrhyw ordal o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.
(10) Caniateir adennill unrhyw ordal o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol —
(a)bod y gordal wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu'n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar b'un a yw'n gymwys ai peidio i gael benthyciad neu ar y swm o fenthyciad y mae'n gymwys i'w gael; neu
(b)bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i ddarparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu
(c)bod y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(11) Pan fo modd adennill gordal o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.
(12) Pan na fo modd adennill gordal o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf.
(13) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: