- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
56.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol
(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.
(4) Mae eithriad yn gymwys—
(a)pan fo lwfans myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b)pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff y Cynulliad ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(7) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(8) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—
(a)swm pob grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na byddai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a
(b)faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
(9) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi talu grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y tâl dros ben fel gordal o'r grant hwnnw
(b)os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny caiff estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chaiff benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(11) Os yw taliad grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(13) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.
(14) Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r swm ychwanegol yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn eu bod yn briodol;
(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;
(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw grant arall at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;
(ch)gellir adennill unrhyw ordal sy'n weddill yn unol â rheoliad 60 .
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: