- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
24.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a)£12,425 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)£4,910 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo —
(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(ch)£1,645 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
(5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,325 a £1,230, yn y drefn honno —
(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a
(b)os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: