Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

23.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod —

(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd —

(a)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;

(b)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

(c)ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.

(4Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw —

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(d)gwasanaeth di-dâl gydag —

(i)Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) (“Deddf 1977”) neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno(2) neu yn unol ag adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(3) neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o Ddeddf 1977(4) neu yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16 BA Ddeddf 1977;

(ii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5); neu

(iii)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (6).

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol yw —

(a)ei fod yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS a bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(b)bod y cwrs gradd yn gwrs HCA hyblyg.

(9Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.

(10Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(11Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10) yw —

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.

(1)

1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), adran 1(2).

(2)

Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, paragraff 6.

(4)

Mewnosodwyd adran 16BA gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002, adran 6(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources