- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd(1) am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(2) ac —
(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—
(a)£1,225; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (3) yw'r lleiaf o'r canlynol—
(a)£610, a
(b)y swm sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(3) Y canlynol yw'r achosion—
(a)blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd —
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—
(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(d)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis(3) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,195.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,445.
(6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd y penderfynir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
(7) Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,150 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.
(8) Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £610 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os bod un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.
(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—
(a)£1,150; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £2,905.
18.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a)os yw'r myfyriwr yn gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn honno i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —
(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
(3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £1,845 neu y gwahaniaeth rhwng £1,225 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £925 neu y gwahaniaeth rhwng £610 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd-sy'n berson y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(6) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Diffinnir ffioedd (“fees”) yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).
Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.
Enw blaenorol Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: