Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN 12CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

74.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol iddo ei ysgwyddo mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau yw —

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol, wrth asesu cais person am gymorth, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys —

(a)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs —

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(1);

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 4(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(8Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10) neu (11)—

(10Yr amodau yw —

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-radd dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ac nad yw'r statws hwnnw wedi dod i ben neu wedi'i derfynu;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd dynodedig presennol; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(11Yr amodau yw —

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig heblaw'r cwrs ôl-radd dynodedig presennol;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(12Os bydd—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Os bydd—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(14Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau'r cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(15Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol —

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

(16Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(17Y digwyddiadau yw—

(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu mae'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)mae'r wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i dinasyddion yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd trwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)daw'r myfyriwr yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(dd)daw'r myfyriwr yn blentyn i un o ddinasyddion y Swistir.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

75.  Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 74 —

(a)os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw'n gwrs —

(i)sy'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod sydd fel arfer yn ofynnol ar gyfer cwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c)os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch)nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1) —

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3).

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs o dan sylw;

(b)ystyr y “ cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—

(i)os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;

(ii)os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(4ystyr “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —

(i)sydd wedi dechrau'r cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn gyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; ac

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol heblaw yn ystod gwyliau.

(5At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 74, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

76.—(1Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys —

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu lle na fydd yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 77; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 82.

(7Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y bydd yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

77.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a)os caiff gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn y sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

78.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd

(a)pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

79.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau

80.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £5,920 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys” —

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.

Talu grantiau

81.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

82.—(1Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —

(a)drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(4Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(5Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (6) a (7), mae gordal o grant o dan y Rhan hon onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(6Yr amgylchiadau yw—

(a)mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(7Yr amgylchiadau yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Pan fo gordal o grant o dan y Rhan hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

(3)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources