- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40(4), (5), (6) a (9) ac adran 203(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2007.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003(2).
2.—(1) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(b), hepgorer y geiriau “Awdurdod Iechyd” lle maent yn ymddangos y tro cyntaf.
(3) Yn rheoliad 4(3), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau “rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1)”.
(4) Yn rheoliad 5(2)(dd)(v), ar ôl y gair “llesiant” mewnosoder y geiriau “gan gynnwys anghydraddoldebau sy'n ymwneud â hil, anabledd, rhyw, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd a chred”.
(5) Yn rheoliad 6, hepgorer paragraffau (2) a (3).
(6) Mae rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio'n unol â'r darpariaethau canlynol:
(a)ar ôl paragraff (1)(a), mewnosoder yr is-baragraff canlynol “(aa) cynlluniau plant a pobl ifanc o dan adran 26(1) o Ddeddf Plant 2004”;
(b)ym mharagraff (1)(c), yn lle'r geiriau “adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999” rhodder “adran 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006”;
(c)ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau “cynlluniau a restrir ym mharagraff (1) uchod”;
(ch)ym mharagraff (4), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau “fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth”;
(d)ym mharagraff (5), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau “fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth”.
(7) Yn rheoliad 10(4), rhodder y ffigur “3” yn lle'r ffigur “5”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003 (O.S. 2003/154 (Cy.24)) (“y prif Reoliadau”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfeiriad at “Awdurdod Iechyd” yn y diffiniad o “corff GIG” (rheoliad 2(2));
(b)yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau drwy ddileu'r angen i gyrff cyfrifol ymgynghori cyn llunio eu strategaethau (rheoliad 2(3));
(c)yn ehangu rheoliad 5(2)(dd)(v) o'r prif Reoliadau i gynnwys yr angen i'r strategaeth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n ymwneud ag anabledd, hil, rhyw, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred (rheoliad 2(4));
(ch)yn diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau i ddileu'r gofynion a fyddai'n cael eu gosod ar gyrff cyfrifol pe baent yn bwriadu peidio ag ymrwymo i drefniadau comisiynu (rheoliad 2(5));
(d)yn diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(1) gynlluniau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004; rhoi yn lle'r cyfeiriad yn rheoliad 7(1)(c) at adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999 gyfeiriad at adran 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a dileu'r gofyniad yn rheoliadau 7(2), 7(4) a 7(5) i gyhoeddi cynlluniau a restrir yn rheoliad 7(1) fel rhan o'r strategaeth (rheoliad 2(6));
(dd)yn diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau i leihau'r cyfnod gweithredol ar gyfer pob strategaeth i 3 blynedd (rheoliad 2(7)).
3. Mae Arfarniad Rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Uned Strategaeth, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p.42. Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at y term “Welsh Ministers” i gael eu heffaith tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol, o fewn ystyr y term hwnnw yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43) a pharagraff 10 o Atodlen 3 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: