- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr “bwyd DMN” (“PNU food”) yw bwyd at ddefnydd maethol neilltuol—
y mae, oherwydd ei gyfansoddiad arbennig neu y broses o'i gynhyrchu, gwahaniaeth amlwg rhyngddo â bwyd a fwriadwyd i'w fwyta'n arferol, a
sy'n cael ei werthu mewn modd sy'n dangos a ydyw'n addas ar gyfer y diben maethol penodol honedig,
ond nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r dosbarthiadau a ganlyn—
fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol,
bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc,
bwyd y bwriedir ei ddefnyddio mewn deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau,
bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig,
bwydydd sydd wedi'u bwriadu i ddiwallu ymdrech gyhyrol sylweddol, yn arbennig ar gyfer sbortsmyn, a
bwydydd ar gyfer pobl sy'n dioddef gan anhwylderau carbohydrad-metaboliaeth (clefyd siwgr);
ystyr “defnydd maethol neilltuol” (“particular nutritional use”) yw bodloni gofynion maethol neilltuol—
rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu
rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd arbennig iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu
babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu (ac eithrio gyda label neu ddeunydd lapio) gyda'r bwriad o werthu;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer defnydd maethol penodol(1).
(2) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
OJ Rhif L186, 30.6.89, t.27, fel y'i diwigiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1). Disodlwyd Adtodlen 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC gan Gyfarwyddeb 1991/41/EC (OJ Rhif L172, 8.7.99, t.38).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: