xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Wedi'u gwneud
27Mawrth 2007
Yn dod i rym
28 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.
Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.
1968 p. 34. Gweler adrannau 8(4) a 50 am y dehongliad o “the Ministers”. Cafodd swyddogaethau'r Gweinidogion, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.