Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 980 (Cy.103)

DRAENIO TIR, CYMRU

Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006

Wedi

29 Mawrth 2006

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1)

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006 a daw i rym pan ddaw Gorchymyn 2005 i rym(2).

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995;

ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005(3);

ystyr “y pwyllgor” (“the committee”) yw Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, sef y pwyllgor rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd a sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf 1995 ac y mae cynghorau'r bwrdeistrefi sirol a'r siroedd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gynghorau cyfansoddol ohono.

Cyfansoddiad

2.—(1Mae'r pwyllgor yn cynnwys y canlynol, ac ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth, hynny yw—

(a)cadeirydd a saith aelod arall wedi eu penodi gan y Cynulliad;

(b)dau aelod wedi eu penodi gan yr Asiantaeth; ac

(c)un aelod wedi ei benodi gan bob grwŵp a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, neu ar ran bob grwŵp, y mae cynghorau'r siroedd a'r bwrdeistrefi sirol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen yn gynghorau cyfansoddol ohono.

(2Mae'r penodiadau o dan baragraff (1)(c) i gael eu gwneud gan y cynghorau ym mhob grwŵp yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r aelod a benodir dros y grwŵp hwnnw.

(3Os digwydd na fydd y cynghorau a bennir yn unrhyw grwŵp yn yr Atodlen yn gallu gwneud penodiad o dan baragraff (1)(c), caiff y Cynulliad benodi aelod dros y grwŵp hwnnw ar ran y cynghorau hynny.

(4Wrth benodi person i fod yn gadeirydd neu'n aelod o'r pwyllgor, rhaid i'r Cynulliad neu gyngor cyfansoddol, yn ôl y digwydd, ystyried y priodoldeb o benodi person sydd â phrofiad o fater, ac sydd wedi dangos gallu mewn mater sydd yn berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor.

Trosiannol

3.  At ddibenion y penodiadau cyntaf a wneir gan bob grwŵp dan erthygl 2(1)(c) neu ar ran bob grwŵp o dan erthygl 2(3), mae paragraff 1 (3) o Atodlen 5 i Ddeddf 1995 (tymor swydd aelodau a benodir gan gynghorau cyfansoddol) yn effeithiol gyda'r addasiadau hyn—

(a)yn lle “June” rhodder “April”; a

(b)yn lle “a term of four years” rhodder “a term ending with 31 May 2010”.

Dirymu

4.  Dirymir Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

TLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2006

(Erthygl 2)

YR ATODLENGrwpiau o Gynghorau Cyfansoddol i benodi Aelodau

Grwŵp Cynghorau Cyfansoddol
1Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
2Ynys Môn, Conwy a Gwynedd
3Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
4Bro Morgannwg a Chaerdydd
5Abertawe, Castell-Nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
6Powys, Sir Fynwy a Thor-faen
7Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd
8Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Pwyllgorau Asiantaeth yr Amgylchedd yw pwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd, ac fe'u sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”).

Mae adran 16A(3) o Ddeddf 1995 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) benderfynu cyfanswm nifer aelodau pwyllgor Cymreig a'r dull o'u dewis ac i benodi cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor (gan gynnwys y sawl fydd yn eu penodi).

Caiff y Cynulliad wneud gorchymyn o'r fath dan adran 16A(3) os cyfyd yr amodau a ganlyn: fod y cyfan neu'r rhan fwyaf o ardal y pwyllgor yng Nghymru; ac nad oes yna gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor (adran 16A(2)).

Mewn perthynas â phwyllgor nad yw ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru, dim ond gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir arfer y pwŵer i wneud gorchymyn o'r fath ac mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd (adran 16A(6)).

Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwyllgor y bydd ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru o 1 Ebrill 2006 ymlaen(6) ac nad oes, mewn perthynas â hi, gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym(7). Yn unol â hynny, nid yw'n ddarostyngedig i gytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol nac yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd.

Oherwydd yr ystyriaethau uchod, mae erthygl 1 yn darparu bod dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym yn ddibynnol ar fod aliniad ardal y pwyllgor gydag arwynebedd Cymru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn darparu bod y Cynulliad i benodi wyth aelod ar y pwyllgor, gan gynnwys y cadeirydd; bod Asiantaeth yr Amgylchedd i benodi dau aelod (ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth); a bod awdurdodau lleol i benodi cyfanswm o wyth aelod (i'w penodi gan gynghorau'n gweithio ar y cyd i benodi un aelod ar gyfer pob grwŵp o awdurdodau lleol a bennir yn yr Atodlen). Os nad yw grwŵp o gynghorau, sy'n gweithio ar y cyd, yn gallu penodi aelod, caiff y Cynulliad benodi'r aelod hwnnw ar ran y cynghorau.

Mae erthygl 3 yn darparu bod tymor swydd yr aelodau cyntaf a benodir gan y cynghorau cyfansoddol o dan y Gorchymyn hwn i gychwyn yn Ebrill, yn hytrach nag ym Mehefin fel y darperir yn Atodlen 5 i Ddeddf 1995, a'u bod i barhau hyd 31 Mai 2010. Ar ôl hynny, bydd y penodiadau yn cychwyn ym Mehefin.

Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996 (O.S. 1996/538).

(1)

1995 p.25. Mewnosodwyd adran 16A gan adran 67 o Ddeddf Dw 246 r 2003 (p.37) (Aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru).

(2)

Cafodd Gorchymyn 2005 ei wneud ar 24 Medi 2005, a'i osod gerbron y Senedd ar 3 Tachwedd 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

(4)

O.S. 1996/538 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/1007 ac O.S 2005/3047).

(6)

Mae Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005 (O.S. 2005/3047), sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2006, yn newid ffin ardal Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, er mwyn peri iddi gydweddu ag arwynebedd Cymru.

(7)

Dirymodd Gorchymyn Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru 1996 (Dirymu) 2005 (O.S. 2005/548), a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005, y cynllun amddiffyn rhag llifogydd oedd mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor hwn.