Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod goruchwylio lleol” (“local supervising authority”) yw'r corff sy'n arfer swyddogaethau yn unol ag erthyglau 42(1)(b) a 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 20012;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Gorchymyn 2004” (“the 2004 Order”) yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydliad, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 20043;
ystyr “PIC” (“HPW”) yw'r corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru (Health Professions Wales) ac a sefydlwyd gan Orchymyn 2004;
Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru2
Diddymir PIC.
Dirymu Gorchmynion3
Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 20044 yn cael eu dirymu.
Trosglwyddo Staff4
Ar 1 Ebrill 2006—
a
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg;
b
bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol;
c
bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Trosglwyddo pob eiddo a chofnod5
Ar 1 Ebrill 2006—
a
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd pob eiddo yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
b
bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
c
bydd y cofnodion a ddelir gan PIC mewn perthynas ag arfer swyddogaeth dyfarndaliadau myfyrwyr a roddir o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 19685 yn cael eu trosglwyddo i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.
Gorfodi hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau6
1
Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
2
Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dirwyn i ben faterion Proffesiynau Iechyd Cymru7
1
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.
2
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.
3
Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
a
archwilio ac ardystio cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (2); a
b
gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986