Search Legislation

Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “awdurdod goruchwylio lleol” (“local supervising authority”) yw'r corff sy'n arfer swyddogaethau yn unol ag erthyglau 42(1)(b) a 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(1);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Gorchymyn 2004” (“the 2004 Order”) yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydliad, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004(2);

ystyr “PIC” (“HPW”) yw'r corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru (Health Professions Wales) ac a sefydlwyd gan Orchymyn 2004;

Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru

2.  Diddymir PIC.

Dirymu Gorchmynion

3.  Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004(3) yn cael eu dirymu.

Trosglwyddo Staff

4.  Ar 1 Ebrill 2006—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg;

(b)bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Trosglwyddo pob eiddo a chofnod

5.  Ar 1 Ebrill 2006—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd pob eiddo yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)bydd y cofnodion a ddelir gan PIC mewn perthynas ag arfer swyddogaeth dyfarndaliadau myfyrwyr a roddir o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968(4) yn cael eu trosglwyddo i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.

Gorfodi hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau

6.—(1Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dirwyn i ben faterion Proffesiynau Iechyd Cymru

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.

(3Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—

(a)archwilio ac ardystio cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (2); a

(b)gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources