Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

Rheoliad 4

ATODLEN 3Gwybodaeth Ategol

Rhaid i Atodiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol fynd gyda Chynllun Addysg Sengl—

(a)y nifer o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, a nifer arfaethedig y disgyblion hynny ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;

(b)y nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgolion meithrin ac ysgolion arbennig) yn y flwyddyn ysgol 2005-06 o'i chymharu â chapasiti'r ysgol, a'r nifer arfaethedig ar y gofrestr ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;

(c)y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol;

(ch)y galw am ddarpariaeth mewn ysgolion crefyddol a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol ;

(d)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06—

(i)y nifer o leoedd meithrin mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(ii)y nifer o leoedd o'r fath a ariennir gan yr awdurdod mewn sefydliadau nas cynhelir; a

(iii)y nifer o leoedd yn y mannau canlynol, gan roi'r ffigurau ar wahân o ran yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (i) a (ii)—

  • ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Cymraeg, a

  • ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Saesneg,

ac, ym mhob achos, y nifer arfaethedig o leoedd ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08; ac

(dd)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06 cyfanswm y lleoedd hynny yn y sefydliadau canlynol—

(i)ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)dosbarthiadau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly,

gyda dadansoddiad yn ôl y math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob un o'r ddau fath hwnnw o sefydliad, ac (ar gyfer pob sefydliad o'r fath ac ar wahân ar gyfer pob math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob sefydliad o'r fath) dadansoddiad pellach yn ôl y canlynol—

(i)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth ddydd yn unig,

(ii)a oes darpariaeth fyrddio o dymor i dymor ar gael,

(iii)a oes darpariaeth fyrddio am 52 wythnos ar gael, neu

(iv)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ynteu cyfrwng Saesneg.