- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Mae Rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(1) yn cael ei ddisodli gan—
“(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(2), rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(3) a rheoliadau 12 ac 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau i'r canlynol—
(a)pwyllgor;
(b)unrhyw lywodraethwr; neu
(c)y pennaeth (p'un a yw'n llywodraethwr neu beidio).”.
(2) Yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn lle'r geiriau “paragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliadau 10 a 24 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
(3) Mae rheoliad 55 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)Ym mharagraff (1)(i) yn lle'r geiriau “paragraff 25 o Atodlen 16 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliad 17(1) o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
(b)Yn lle paragraffau (3) a (4) rhowch—
“(3) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu staff gynnwys nid llai na thri llywodraethwr, ond os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys nid llai na dau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw'n llywodraethwr.
(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu beidio â chynnwys llai o lywodraethwyr na'r pwyllgor disgyblu staff y mae ei benderfyniad yn destun yr apêl ac os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn rhan o benderfyniad y pwyllgor disgyblu staff.
(4A) At ddibenion paragraffau (3) a (4) rhaid barnu bod person yn annibynnol o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a)os nad yw'r person yn un o lywodraethwyr yr ysgol o dan sylw;
(b)os nad yw'r person yn rhiant i un o ddisgyblion presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(c)os nad yw'r person yn un o aelodau staff presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(ch)os nad yw'r person yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o dan sylw.”.
(c)Ym mharagraff (8) ar ôl y geiriau “o dan sylw” ychwanegwch “, ac eithrio'r aelod annibynnol o bob pwyllgor sydd wedi'i benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4)”.
(ch)Dilëwch baragraff (9).
(4) Ym mhob un o reoliadau 59(3) a 63(1)(b) yn lle'r geiriau “Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: