Hawliau cynghori i awdurdodau esgobaethol priodol
23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
(2) Os ysgol wirfoddol a gynorthwyir yw'r ysgol, mae gan y swyddog esgobaethol priodol yr un hawliau cynghori mewn perthynas â phenodi athrawon yn yr ysgol, eu cymryd ymlaen neu eu diswyddo ag sy'n arferadwy gan y prif swyddog addysg yn unol â rheoliadau 21 a 30(1) a (2).
(3) Os ysgol sefydledig yw'r ysgol, caiff y corff llywodraethu gytuno â'r awdurdod esgobaethol priodol i roi'r un hawliau cynghori i'r swyddog esgobaethol priodol—
(a)mewn perthynas â'r holl athrawon yn yr ysgol, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad penodol o athrawon o'r fath,
o ran eu penodi, eu cymryd ymlaen neu eu diswyddo ag sy'n arferadwy gan y prif swyddog addysg yn unol â rheoliadau 21 a 30(1) a (2).
(4) Rhaid i gytundeb y corff llywodraethu at ddibenion paragraff (3) gael ei roi yn ysgrifenedig a dim ond drwy hysbysiad mewn ysgrifen i'r awdurdod esgobaethol priodol y gall gael ei dynnu'n ôl.
(5) Yn rheoliadau 21 a 30(1) a (2), fel y maent yn gymwys i ysgol ym mharagraff (2) neu (3), mae cyfeiriadau at y prif swyddog addysg gan hynny yn cynnwys y swyddog esgobaethol priodol, i'r graddau sy'n angenrheidiol i roi eu heffaith i unrhyw hawliau cynghori sy'n arferadwy gan y swyddog esgobaethol priodol o dan y rheoliad hwn.
(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “y swyddog esgobaethol priodol” (“the appropriate diocesan officer”) yw unrhyw berson a enwebir gan yr awdurdod esgobaethol priodol.