xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 63 (Cy.12)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006

Wedi'i wneud

18 Ionawr 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)(1) a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”)(2)

A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru; ac

ystyr “Deddf 1953” (“the 1953 Act”) yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953.

Diddymu'r Cyngor

2.—(1Diddymir y Cyngor.

(2Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Cyngor hawl iddynt, a phob rhwymedigaeth y mae'r Cyngor yn ddarostyngedig iddi, i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau canlyniadol

3.—(1Diddymir y darpariaethau a ganlyn—

(a)adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;

(b)adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(3); ac

(c)y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—

(i)Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976(4),

(ii)Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a

(iii)Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5).

(2Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—

(a)Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(6);

(b)Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002(7).

(3Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—

(a)yn lle “the appropriate Commission or Council”, rhodder “the Commission”;

(b)ar ôl “accepting any property”, mewnosoder “situated in England”;

(c)ar ôl “dealing with any”, mewnosoder “such”; ac

(ch)yn lle “the said Commission or Council”, rhodder “the Commission”.

(4Yn—

(a)paragraff 2(2)(b) o Atodlen 9 i Ddeddf Trydan 1989(8); a

(b)paragraff (a) o'r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 1992(9),

yn lle “Historic Buildings Council”, rhodder “National Assembly”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”) Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953.

Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Yn unol â hynny—

(a)mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Cyngor ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau, y dirymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau ac offerynnau eraill.