Diwygiadau canlyniadol3

1

Diddymir y darpariaethau a ganlyn—

a

adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;

b

adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19903; ac

c

y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—

i

Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 19764,

ii

Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a

iii

Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 20005.

2

Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—

a

Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 20016;

b

Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 20027.

3

Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953

a

yn lle “the appropriate Commission or Council”, rhodder “the Commission”;

b

ar ôl “accepting any property”, mewnosoder “situated in England”;

c

ar ôl “dealing with any”, mewnosoder “such”; ac

ch

yn lle “the said Commission or Council”, rhodder “the Commission”.

4

Yn—

a

paragraff 2(2)(b) o Atodlen 9 i Ddeddf Trydan 19898; a

b

paragraff (a) o'r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 19929,

yn lle “Historic Buildings Council”, rhodder “National Assembly”.