- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Mae gan arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod ef neu hi, hawl ar bob adeg resymol i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad Comisiwn; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd—
(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;
(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;
(c)cymryd unrhyw samplau;
(ch)mynd at, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;
(d)mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys rhoi iddo'r cyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac
(e)mynd ag unrhyw berson arall gydag ef, y mae ef neu hi o'r farn bod ei angen.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a osodwyd o dan baragraff (2)(dd) yn euog o dramgwydd.
(4) Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth ef neu hi yno gyntaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: