Search Legislation

Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid Buchol (Gorfodi Cynllun Prynu'r Gymuned) 1996(1) i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru.

Tramgwyddau

3.—(1Mewn lladd-dy, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ar 19 Ebrill 1996 (“y Rheoliad Comisiwn”) sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(2) y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen, bydd gweithredydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd.

(2Mewn mangre lle y ceir hylosgydd neu mewn safle prosesu, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o'r Atodlen, bydd gweithredydd y fangre honno yn euog o dramgwydd.

Gorfodi a phenodi arolygwyr

4.  Mae'r Rheoliadau i'w gorfodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhaid iddo benodi arolygwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad a phwerau arolygwyr

5.—(1Mae gan arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod ef neu hi, hawl ar bob adeg resymol i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad Comisiwn; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

(2Caiff arolygydd—

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)mynd at, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys rhoi iddo'r cyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd ag unrhyw berson arall gydag ef, y mae ef neu hi o'r farn bod ei angen.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a osodwyd o dan baragraff (2)(dd) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth ef neu hi yno gyntaf.

Rhwystro

6.  Mae unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw ef neu hi—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu,

(ch)yn methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith.

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7.  Os yw arolygydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn iechyd anifail neu iechyd cyhoeddus neu os oes unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn nas cydymffurfir â hi, caiff ef neu hi gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd â sgil-gynnyrch anifeiliaid yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddo ef neu hi ei waredu fel a benno yn yr hysbysiad (ac os oes angen, pennu sut i'w storio cyn ei waredu).

Cydymffurfio â hysbysiadau

8.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.

(2Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hybsysiad hwnnw neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.

Cosbau

9.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu'r ddau, neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources