(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) a Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (“Rheoliadau 1999”).

2

Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith ddeddfwriaeth ganlynol y Gymuned Ewropeaidd—

a

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC (OJ Rhif L24, 27.1.2005, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 71/250/EEC o ran llunio adroddiad ar ganlyniadau dadansoddol a'u dehongli fel sy'n ofynnol o dan Gyfarwyddeb 2002/32/EC;

b

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/7/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu ar lefelau deuocsinau a PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd anifeiliaid; ac

c

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/8/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44) sy'n diwygio Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.

3

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 i adlewyrchu'r ffaith bod Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau gwirio y cydymffurfir â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) yn gwneud yn effeithiol, o 1.1.2006 ymlaen, y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelod-wladwriaethau ac a gafwyd gynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC, i sicrhau bod gwaith samplu a dadansoddi, sy'n cael ei wneud yn unol â rheolaethau swyddogol, yn dilyn dulliau Cymunedol a ragnodir.

4

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC drwy ddiwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2006 mewn perthynas â chofnodion penodol ynghylch plwm, fflworin a mercwri.

5

Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn—

a

mae paragraffau (2) a (5) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/7/EC o ran trosi drwy gyfeirio at y diwygiadau a wnaed gan y Gyfarwyddeb honno i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC;

b

mae paragraff (3) yn gwneud y diwygiadau canlyniadol y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 uchod;

c

mae paragraffau (4) a (6) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC drwy gyflwyno gofynion newydd o ran ansicrwydd ynghylch mesuriad estynedig a chywiro er mwyn adfer pan ddadansoddir bwyd anifeiliaid i ganfod lefelau'r sylweddau annymunol a phan lunnir adroddiad ar y dadansoddiad.

6

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir darpariaethau gweithredol Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2005/6, 2005/7 a 2005/8 yn gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW.