- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurodau gorfodi o ran gorfodi rheoliadau archwilio penodol.
(2) Mae'r swyddogaeth honno yn cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed ar gyfer awdurdodau gorfodi yn gyffredinol neu ar gyfer awdurdodau penodol) mewn perthynas â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.
(3) Rhaid i bob adroddiad blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer ac ar ei pherfformiad o ran—
(a)unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a
(b)unrhyw amcanion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(1).
(4) Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaniateir i'r adroddiad hwnnw gynnwys canllawiau ynghylch y camau y cred yr Asiantaeth y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.
(5) Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo—
(a)i drefnu i gyhoeddi'r adroddiad, neu wybodaeth benodedig sy'n ymwneud â'r adroddiad, yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd; a
(b)i hysbysu'r Asiantaeth, o fewn y cyfnod a bennir felly, o ba gamau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.
(6) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel petai'n wybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: