- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 53B—
(a)Rhif y llwybr, pan fo'r ffordd eisoes wedi'i chofnodi ar y map diffiniol;
(b)unrhyw ddyddiad a bennwyd gan yr awdurdod ar gyfer penderfynu'r cais;
(c)y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais;
(ch)dyfarniad yr awdurdod ar ôl penderfynu'r cais;
(d)pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi—
(i)cyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981 (cais yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r awdurdod i benderfynu cais o fewn cyfnod penodedig), neu
(ii)cyflwyno hysbysiad o apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981,
datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad yn nodi'r penderfyniad a thelerau unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd;
(dd)pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig; ac
(e)pan fo gorchymyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod, datganiad ynghylch a yw'r gorchymyn wedi'i gadarnhau neu beidio (boed hynny gydag addasiadau neu beidio) a phan fo'n cael ei gadarnhau, y dyddiad cadarnhau.
(2) O ran cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a)pan nad yw'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol, rhaid i'r awdurdod ddal ei afael, yn ei gofrestr adran 53B, ar yr wybodaeth a gofnodwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(b)pan fo'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol (boed ar y ffurf y gofynnwyd amdano yn y cais neu fel yr addaswyd y gorchymyn hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol), caiff yr awdurdod ddal ei afael ar yr wybodaeth gofnodedig cyhyd ag y gwêl yn dda a rhaid iddo wneud hynny am o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r map diffiniol a'r datganiad yn cael eu haddasu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: