Search Legislation

Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2 —CYNEFINOEDD BYWYD GWYLLT

Mae'n un o ofynion Cynllun Tir Cynnal bod y cynefinoedd bywyd gwyllt sy'n bodoli ar y tir cytundeb yn cael eu gwarchod rhag niwed. Rhaid i o leiaf 5% o'r tir cytundeb fod yn gynefinoedd bywyd gwyllt.

Y prif grwpiau o gynefinoedd bywyd gwyllt yw'r canlynol (ond nid yw'r rhestr yn un gyflawn):

  • Coetir llydanddail: coetir, gan gynnwys llennyrch a rhodfeydd cysylltiedig, y mae o leiaf 50% o'r coed sydd ynddo yn goed brodorol neu'n goed yw. Cynhwysir coetir gwlyb o wern neu helyg a hefyd berllannau'n cynnwys coed ffrwythau hirgyff. Caniateir cynnwys coetir sy'n ymgorffori coed coniffer ar yr amod bod y rhywogaethau brodorol sydd ynddo yn gorchuddio mwy na 50% o'r arwynebedd (er y gellir cynnwys y rhai sydd â llai na 50% o rywogaethau brodorol os ydynt ar safleoedd coetiroedd hynafol).

  • Prysgwydd: ardaloedd lle y mae mwyafrif y prysgwydd yn rhai brodorol megis y ddraenen wen, y ddraenen ddu, eithin, ysgaw, bedw neu fwyar duon.

  • Gweundir: ardaloedd lle y mae o leiaf 25% o'r llystyfiant yn cynnwys corlwyni megis grug, llus ac eithin mân. Fe'u ceir mewn ystod o leoliadau o ardaloedd arfordir ac iseldir i ucheldiroedd. Mae gweundiroedd ucheldir, sydd fel arfer yn uwch na therfyn caeau amaethyddol, yn aml yn gysylltiedig â chynefinoedd rhostir megis corsydd a phorfa asid.

  • Gweundiroedd mynydd-dir uchel: yn fwyaf nodweddiadol, gorchuddir y rhan helaethaf o'r rhain, sydd hefyd yn cael eu cynnwys, gan fwsoglau, cennau, glaswellt prin a chlytiau o dir caregog heb lystyfiant.

  • Porfa: Ystod o gynefinoedd yn cynnwys porfa na chafodd ei gwella, porfa led naturiol, caeau gwair traddodiadol a phorfeydd corsiog, na fu unrhyw drin arnynt, na chawsant eu hau o'r newydd, na thaenwyd chwynladdwyr arnynt ac na chawsant eu draenio yn ystod y deng mlynedd diwethaf neu fwy. Ar y mwyaf ni fyddant wedi'u gwrteithio ond yn ysgafn â gwrtaith anorganig a nodwedd y cynefin fydd na fydd yno neu prin y bydd yno rywogaethau porfa a gafodd ei gwella megis rhygwellt parhaol a meillion gwyn. Os bydd y rhain yn fwy na 25% o'r glaswellt dylai'r tir gael ei ddosbarthu fel porfa a gafodd ei gwella ac nis cynhwysir yn gynefin o dan gynllun Tir Cynnal.

  • Gwlyptiroedd: Mathau o dir sy'n cynnwys corsydd, gwelyau brwyn, mignenni a ffeniau. Fe'u ceir ar fawn dwfn a/neu lle y mae'r tabl dŵr ar yr un lefel â'r tir neu'n uwch am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

  • Ardaloedd arfordirol: Maent yn cynnwys morfeydd heli a thwyni tywod, yn ogystal â phrysgwydd arfordirol, gweundir, a phorfeydd y mae'r grwpiau cynefin blaenorol yn eu gorchuddio.

Mae'r rhestr uchod yn diffinio'r prif fathau o gynefinoedd, ond gellir cynnwys yn gynefin Tir Cynnal ardaloedd neu gyrff lled naturiol eraill o ddŵr megis pyllau dŵr.

  • Rhaid glynu at set enerig o ragnodau ar ardaloedd cynefin ar y fferm. Maent fel a ganlyn:

Diogelu Cynefinoedd Bywyd Gwyllt — Amodau

  • Ni ddylid aredig, trin y tir na hau o'r newydd.

  • Na ddefnyddier rholer na tsiaen ogau rhwng 1 Ebrill ac 15 Gorffennaf bob blwyddyn.

  • Na osoder system ddraenio newydd

  • Ni ddylid clirio ffosydd rhwng 1 Mawrth a 31 Awst

  • Na ddefnyddier chwynladdwyr neu blaladdwyr (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol).

  • Ymgynghorer â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac/neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ynghylch chwistrellu rhedyn ac ystyrier a oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol.

  • Na ddefnyddier gwrteithiau anorganig, gwrteithiau organig wedi'u prynu mewn bagiau, slyri neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm.

  • Na thaener unrhyw galch, slag basig, gwymon wedi'i galcheiddio, papur gwastraff, slwtsh neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm.

  • Dylid stocio'r tir yn unol â Chod Arfer Ffermio Da yn enwedig fel na fydd gorbori neu ddim digon o bori.

  • Dylid osgoi ymgymryd ag arferion bwydo atodol pan fydd y rhain yn peri niwed i lystyfiant a stablan y pridd.

  • Nac ymgymerer â bwydo atodol o fewn coetir llydanddail neu goetir cymysg.

  • Dylid osgoi rhychau cerbydau ar lystyfiant.

  • Nac echdynner mawn na symud ymaith greigiau.

  • Cadwer twmpathau morgrug.

  • Na symuder ymaith unrhyw bentyrrau o wymon.

Os nad oes digon o dir i fodloni'r rheol 5% gellir cynnwys gwrychoedd neu berthi sy'n bodoli a chynefinoedd/neu gynefinoedd newydd a gaiff eu creu er mwyn bodloni'r gofyniad hwn a'u cyfrif yn rhan o'r ardal gynefin.

Gwarchodir yn y cynllun yr holl wrychoedd neu berthi o dan amodau'r adran fferm gyfan yn Rhan 1. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer bod yn rhan o ardal gynefin, rhaid i wrychoedd neu berthi o'r fath:

  • Bod yn 2 fetr o leiaf o led rhwng ochrau'r gwrych neu'r berth gan gynnwys llystyfiant trwchus cyfagos cysylltiedig — 2 fetr yw'r lled safonol wrth gyfrifo arwynebedd gwrych neu berth.

  • Cynnwys rhywogaethau brodorol megis coed cyll, y ddraenen wen, y ddraenen ddu a chelyn.

  • Bod yn ddi-fwlch (ac eithrio ar gyfer llidiardau ac o dan goed gwrychoedd neu goed perthi) rhwng corneli'r cae er mwyn darparu coridor bywyd gwyllt di-fwlch ar hyd y gwrych neu'r berth.

  • Cael eu gwarchod rhag da byw ar y naill ochr a'r llall. Os nad oes da byw'n bresennol (e.e. ar ffermydd tir âr) rhaid cadw heb unrhyw aflonyddu arno stribed 2 fetr o led gan gynnwys y gwrych neu'r berth ei hun a llystyfiant trwchus cysylltiedig.

  • Bod yn gyfan gwbl o dan rheolaeth y deiliad cytundeb Tir Cynnal fel bod y deiliad Cytundeb Tir Cynnal yn gallu gweithredu'n llwyr yr amodau ar gyfer gwrychoedd neu berthi yn yr Adran Fferm Gyfan. Mae hyn yn golygu na fyddo gwrychoedd neu berthi ffiniol yr ydych yn eu rhannu â ffermwr arall neu'r rhai ar ymyl priffyrdd cyhoeddus yn gymwys i'w cynnwys yn gynefin mewn llawer o achosion.

  • Os cynhwysir gwrychoedd neu berthi yn gynefin rhaid ychwanegu'r amod clustogfa 1 metr at led 2m y gwrych neu'r berth.

Os yw'r ardaloedd cynefin (ynghyd â gwrychoedd neu berthi cymwys os cynhwyswyd y rhain) yn dod i lai na 5% o dir y fferm bydd angen i'r ffermwr nodi ardaloedd o dir wedi'i wella lle y caiff cynefinoedd newydd eu creu. Bydd yn ofynnol i'r ardaloedd newydd hyn, o ychwanegu unrhyw gynefin sy'n bodoli atynt, fod yn gymaint â'r isafswm o 5% neu'n fwy na hynny.

Mae saith opsiwn ar gael i'r ffermwr o dan y cynllun o ran creu cynefin. Gall y ffermwr ddewis un neu fwy i weddu i reolaeth y fferm. Mae'r opsiynau fel a ganlyn:

1.  Creu coridorau glannau nentydd gydag ymyl cyrsiau dŵr.

2.  Taenu llai ar dir a hynny i adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella.

3.  Gadael lleiniau ymyl o rawnfwyd heb ei dorri ar dir grawnfwydydd.

4.  Creu lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd.

5.  Plannu coed llydanddail ar raddfa fechan.

6.  Sefydlu cnydau gorchudd i adar gwyllt.

7.  Sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir.

Rhagnodau ar gyfer creu coridor glannau nentydd

  • Dylid sicrhau na chaiff da byw fynd ar stribed o dir 10m o led ar gyfartaledd yn gyfagos at gwrs dŵr. Gwneir hyn fel arfer drwy godi ffens, oni all amgylchiadau sicrhau na all da byw fynd ar y stribed (e.e. ffermydd tir cytundeb lle nad oes da byw, neu ardaloedd a amddiffynnir gan nodweddion naturiol). Ni ddylai'r stribed fod yn gulach na 6m yn unrhyw fan.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at ragnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt).

  • Na thaener tail buarth fferm.

Rhagnodau ar gyfer taenu llai a hynny er mwyn adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal

  • Na thaener tail buarth fferm.

Rhagnodau ar gyfer gadael lleiniau ymyl heb eu torri ar dir grawnfwydydd

  • Mae'r llain ymyl i'w defnyddio ar bentiroedd detholedig a rhaid iddi fod rhwng 4 metr o leiaf a 12 metr ar y mwyaf o led, y tu hwnt i'r glustogfa ffin cae 1 metr.

  • Caniateir lleoli'r llain ymyl yn yr un lle neu gellir ei symud mewn cylch o gwmpas y tir cytundeb ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Os y'i symudir mewn cylch, dylid cadarnhau bob blwyddyn beth yw'r arwynebedd lleiaf sy'n ofynnol i fodloni'r “rheol 5% ”.

  • Dylid caniatáu i'r llain ymyl aildyfu'n naturiol.

  • Cadwer yr holl dda byw oddi ar y llain ymyl.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2).

  • Na thaener tail buarth fferm.

  • Na thaener molwsgladdwyr.

  • Dylid trin y llain ymyl unwaith bob blwyddyn rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (os bydd y llain ymyl yn aros yn ei hunfan am fwy na blwyddyn, caniateir ei thrin bob yn ail flwyddyn).

  • Ni chaniateir mynediad rheolaidd i beiriannau ar unrhyw ran o'r llain ymyl na defnyddio unrhyw ran ohoni fel llwybr. Mae torri gwrychoedd neu berthi neu gynnal arolygiadau rwtîn yn dderbyniol, ond os yw'n anhepgorol mynd ar y llain ymyl yn rheolaidd, rhaid iddi fod yn 7 metr o led o leiaf.

Rhagnodau ar gyfer lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd

  • Mae'r llain ymyl i'w defnyddio ar bentiroedd detholedig a rhaid iddi fod rhwng 4 metr o leiaf a 12 metr ar y mwyaf o led y tu hwnt i'r glustogfa ffin cae 1 metr. Gellir symud y llain ymyl mewn cylch yn flynyddol neu, ar yr amod y gellir glynu at yr holl ragnodau, gall aros yn ei hunfan

  • Rhaid hau cymysgedd o ddau o leiaf o'r rhywogaethau glaswellt canlynol er mwyn gorchuddio'r llain ymyl yn gyfan gwbl:

  • Rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus)

  • Maswellt penwyn ( Holcus lanatus)

  • Gweunwellt llyfn (Poa pratensis)

  • Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum)

  • Troed y ceiliog (Dactylis glomerata)

  • Peiswellt y defaid (Festuca ovina)

  • Peiswellt (Festuca pratensis)

Yn ogystal ag o leiaf 3 kg/ha o naill ai meillion coch, meillion Sweden neu bys-y-ceirw.

  • Cyhyd ag y bydd y llain ymyl yn aros yn ei hunfan gellir cadw'r llystyfiant sy'n bodoli am yr ail flwyddyn a'r blynyddoedd canlynol.

  • Rhaid gadael y glaswellt heb ei dorri a heb ei bori rhwng amser hau a 15 Gorffennaf.

  • Rhaid torri'r llain ymyl o leiaf unwaith y flwyddyn a chaniateir dwyn y torion ymaith (gellir eu difrodi, e.e. drwy eu compostio, neu eu defnyddio, e.e. fel gwair, silwair, neu borthiant glas).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2).

  • Na thaener tail buarth fferm.

  • Na thaener molwsgladdwyr.

  • Na chaniataer i gerbydau fynd ar y llain ymyl rhwng amser hau ac 15 Gorffennaf yn y flwyddyn gyntaf, neu wedi hynny cyn 15 Gorffennaf os cedwir y llain ymyl yn ei hunfan am nifer o flynyddoedd.

Rhagnodau ar gyfer plannu coed llydanddail ar raddfa fechan

  • Rhaid i'r arwynebedd a gaiff ei blannu fod yn arwynebedd a oedd cyn plannu yn borfa a gafodd ei gwella neu'n dir âr.

  • Rhaid i'r coed fod yn rhywogaethau llydanddail brodorol ac o ran trwch dylid eu plannu fel nad oes llai na 3 metr rhyngddynt.

  • Amddiffynner y coed rhag da byw tra pery'r cytundeb Tir Cynnal. Cyflawnir hyn fel arfer drwy godi ffensys, oni fydd amgylchiadau'n sicrhau na fydd unrhyw dda byw yn gallu mynd ar y tir (e.e. tir cytundeb heb dda byw, neu ardaloedd a amddiffynnir gan nodweddion naturiol).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

  • Caniateir taenu tail buarth fferm ar raddfa o 25 tunnell ar y mwyaf fesul hectar cyn plannu. Ni ddylid taenu tail buarth fferm o gwbl ar ôl plannu.

Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnwd gorchudd i adar gwyllt

  • Dylid trin gwely hadau sy'n cynnwys o leiaf ddau neu dri math gwahanol o gnwd a dylai'r gwely fod yn 4 metr o led ac ar ymylon caeau (ond mae caeau cyfan yn dderbyniol hefyd) a dylid sefydlu'r cnwd yn flynyddol cyn 20 Ebrill. Mae rhywogaethau nodweddiadol yn cynnwys: barlys, ceirch, tritical, had llin, cwinoa, miled, mwstard, cêl, cribau'r pannwr, betys porthiant, meillion coch, a'r godog.

  • Rhaid peidio â thorri'r cnwd na'i bori cyn 15 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn ei sefydlu.

  • Na thaener pryfladdwyr, ffwngladdwyr, molwsgladdwyr neu chwynladdwyr (ac eithrio ar gyfer rhoi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).

  • Dim ond ar adeg sefydlu cnwd y caniateir defnyddio calch neu wrtaith (organig neu anorganig).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir

  • Sefydler cnwd gwreiddlysiau'n flynyddol cyn 1 Gorffennaf (e.e. rwdins neu swêds, neu erfin neu faip) mewn caeau cyfan neu ar ymylon caeau.

  • Caniateir taenu glyffosad i ddifrodi llystyfiant sy'n bodoli cyn sefydlu'r cnwd, ond ni ddylid defnyddio unrhyw chwynladdwyr eraill, (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).

  • Dim ond os y'u rhoddir yn y twll neu'r rhych ar adeg sefydlu'r cnwd y caniateir defnyddio molwsgladdwyr. Ni chaniateir defnyddio unrhyw blaladdwyr eraill.

  • Mae defnyddio calch a gwrtaith yn dderbyniol.

  • Ni ddylid pori'r cnwd cyn 15 Hydref ac ni ddylid aredig y tir nes 1 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn sefydlu'r cnwd.

  • Opsiwn i'w symud mewn cylch yw hwn a gellir ei symud o gwmpas y fferm yn flynyddol cyhyd ag y cedwir cyfanswm yr arwynebedd y cytunwyd arno.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources