Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond sy'n—

(a)

aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu

(b)

aelod o unrhyw gydbwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r awdurdod ar y cydbwyllgor neu ar y cyd is-bwyllgor hwnnw,

ac sy'n gymwys i bleidleisio ar unrhyw fater sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf Amgylchedd 1995(1) neu awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.