2006 Rhif 3392 (Cy.311)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47(8) a 62 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 19892

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 19892 mewnosoder ar y diwedd —

6

Paragraph (3) does not apply where the billing authority revokes a decision or makes a relevant variation of a determination as a consequence only of the commencement of section 63 (Rural settlement lists etc.) of the Local Government Act 20033.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 19933

1

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru )19934 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, yn lle “section 43(5)” rhodder “section 43(4A)(b), (5)”.

3

Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2—

a

Yn nodyn o dan y pennawd “Rural Rate Relief”—

i

ar ôl y geiriau “From 1 April 2002” rhodder “until 31 March 2007”; a

ii

mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—

From 1 April 2007 the Rural Rate Relief scheme is revoked and replaced by the National Assembly for Wales’s Small Business Rate Relief scheme mentioned below.

b

Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —

National Assembly for Wales’s Small Business Rate Relief

From 1 April 2007 occupiers of —

a

certain hereditaments with a rateable value of £2,000 or less are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill;

b

certain hereditaments with a rateable value of more than £2,000 but not more than £5,000 are entitled to rate relief at 25% of the full rates bill;

c

post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of not more than £9,000 are entitled to rate relief at 100% of the full rates bill; a

d

post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of more than £9,000 but not more than £12,000 are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill.

In the cases of (a), (b) and (d) above billing authorities have discretion to provide relief in respect of all or part of the remaining 50% or 75% as the case may be.

4

Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2—

a

Yn y nodyn o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi Gwledig” —

i

ar ôl y geiriau “O 1 Ebrill 2002 ymlaen” mewnosoder “hyd at 31 Mawrth 2007”; a

ii

mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—

O 1 Ebrill 2007 ymlaen mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwledig wedi'i ddiddymu ac fe'i disodlir gan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cenedlaethol Cymru a grybwyllir isod.

b

Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cenedlaethol Cymru

O 1 Ebrill 2007 ymlaen bydd gan feddianwyr—

a

hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o £2,000 neu lai yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn;

b

hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £5,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 25% o'r bil ardrethi llawn;

c

swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o nid mwy na £9,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 100% o'r bil ardrethi llawn;

ch

swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o fwy na £9,000 ond nid mwy na £12,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn.

Yn achosion (a), (b) ac (ch) uchod mae gan awdurdodau bilio y disgresiwn i ddarparu rhyddhad o ran y cyfan neu ran o'r 50% neu'r 75% gweddilliol yn ôl y digwydd.

5

Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir o ran unrhyw swm sy'n daladwy o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2007.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r rheoliadau canlynol o ganlyniad i ddirymu, oddi ar 1 Ebrill 2007, y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig a chyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 drwy ddileu'r angen i awdurdodau bilio (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) i anfon hysbysiad 12 mis i dalwyr ardrethi os yw effaith dyfodiad i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (a dirymiad canlyniadol y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru a dilead disgresiwn awdurdodau bilio i ddarparu rhyddhad ardrethi o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran aneddiadau gwledig) yw y byddai'n ofynnol i dalwyr ardrethi dalu swm taladwy mwy.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu (Cymru) 1993 drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio osod nodyn yn yr hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi annomestig ynghylch effaith cyflwyno'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.