Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3392 (Cy.311)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

12 Rhagfyr 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47(8) a 62 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989

2.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989(2) mewnosoder ar y diwedd —

(6) Paragraph (3) does not apply where the billing authority revokes a decision or makes a relevant variation of a determination as a consequence only of the commencement of section 63 (Rural settlement lists etc.) of the Local Government Act 2003(3)..

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

3.—(1Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru )1993(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, yn lle “section 43(5)” rhodder “section 43(4A)(b), (5)”.

(3Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2—

(a)Yn nodyn o dan y pennawd “Rural Rate Relief”—

(i)ar ôl y geiriau “From 1 April 2002” rhodder “until 31 March 2007”; a

(ii)mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—

From 1 April 2007 the Rural Rate Relief scheme is revoked and replaced by the National Assembly for Wales’s Small Business Rate Relief scheme mentioned below..

(b)Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —

National Assembly for Wales’s Small Business Rate Relief

From 1 April 2007 occupiers of —

(a)certain hereditaments with a rateable value of £2,000 or less are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill;

(b)certain hereditaments with a rateable value of more than £2,000 but not more than £5,000 are entitled to rate relief at 25% of the full rates bill;

(c)post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of not more than £9,000 are entitled to rate relief at 100% of the full rates bill; a

(d)post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of more than £9,000 but not more than £12,000 are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill.

In the cases of (a), (b) and (d) above billing authorities have discretion to provide relief in respect of all or part of the remaining 50% or 75% as the case may be..

(4Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2—

(a)Yn y nodyn o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi Gwledig” —

(i)ar ôl y geiriau “O 1 Ebrill 2002 ymlaen” mewnosoder “hyd at 31 Mawrth 2007”; a

(ii)mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—

O 1 Ebrill 2007 ymlaen mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwledig wedi'i ddiddymu ac fe'i disodlir gan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cenedlaethol Cymru a grybwyllir isod.

(b)Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cenedlaethol Cymru

O 1 Ebrill 2007 ymlaen bydd gan feddianwyr—

(a)hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o £2,000 neu lai yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn;

(b)hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £5,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 25% o'r bil ardrethi llawn;

(c)swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o nid mwy na £9,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 100% o'r bil ardrethi llawn;

(ch)swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o fwy na £9,000 ond nid mwy na £12,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn.

Yn achosion (a), (b) ac (ch) uchod mae gan awdurdodau bilio y disgresiwn i ddarparu rhyddhad o ran y cyfan neu ran o'r 50% neu'r 75% gweddilliol yn ôl y digwydd..

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir o ran unrhyw swm sy'n daladwy o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2007.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r rheoliadau canlynol o ganlyniad i ddirymu, oddi ar 1 Ebrill 2007, y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig a chyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 drwy ddileu'r angen i awdurdodau bilio (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) i anfon hysbysiad 12 mis i dalwyr ardrethi os yw effaith dyfodiad i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (a dirymiad canlyniadol y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru a dilead disgresiwn awdurdodau bilio i ddarparu rhyddhad ardrethi o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran aneddiadau gwledig) yw y byddai'n ofynnol i dalwyr ardrethi dalu swm taladwy mwy.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu (Cymru) 1993 drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio osod nodyn yn yr hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi annomestig ynghylch effaith cyflwyno'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.

(2)

O.S. 1989/1059, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/616.

(3)

2003 c. 26. Daw adran 63 i rym ar 1 Ebrill 2007.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources