- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'i wneud
18 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym
21 Rhagfyr 2006
1. Mae'r darnau o'r ffordd arbennig bresennol a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r cynllun hwn ac a ddangosir â llinellau du trwm ar y plan a adneuwyd i ddod yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Cynllun hwn i rym.
2. Yn y Cynllun hwn:—
(1) Mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(2) ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw'r ffordd arbennig a grybwyllir yn erthygl 1 a'r Atodlen i'r Cynllun hwn;
(3) ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA16/1 NAFW 3, a elwir “Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006”, a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
3. Daw'r Cynllun hwn i rym ar 21 Rhagfyr 2006 a'i enw fydd Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
S C SHOULER
Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
18 Rhagfyr 2006
Y darnau o ffordd arbennig sydd i ddod yn gefnffordd o dan y Cynllun hwn yw:—
(i)y slipffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o'i chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r dwyrain wrth Gyffordd 30 hyd at ei chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30, sef pellter o 270 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 1 iddi ar y plan a adneuwyd.
(ii)y slipffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r dwyrain wrth Gyffordd 30, sef pellter o 370 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 2 iddi ar y plan a adneuwyd.
(iii)y slipffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30 hyd at ei chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30, sef pellter o 380 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 3 iddi ar y plan a adneuwyd.
(iv)y slipffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30, sef pellter o 270 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 4 iddi ar y plan a adneuwyd.
Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn wedi'u rhoi bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: