xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 3
1.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth pan fydd yn cynnal etholiad Cynulliad ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio o ran personau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post).
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £2,600.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £1,362.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £349.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.
(5) Pan fo person mewn etholiad cyffredin yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng o £291.00 ar gyfer pob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri.
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol pan fydd yn cynnal etholiad rhanbarthol ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol am y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,362.00.
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad am y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnir o ran person sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) o ran y swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £158.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Pan geir mewn lle pleidleisio fwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 o ran un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw.
(5) O ran swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys.
(6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.
4.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu clercod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £95 fesul clerc pledeisio.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post ac â'r cyfrif ac ag unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £11,200.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £10,080.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol ac eithrio etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo.
(5) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 pan geir pleidleisio, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £524.00 ar gyfer pob tro y caiff pleidleisiau eu hailgyfrif o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 2003.
(7) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £1,512.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,212.00.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu swyddog canlyniadau etholaeth o ran treuliau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r swyddog llywyddu a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio.
(3) Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraff (2) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi yw £140.00.
(4) Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraffau (2) a (3) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio gan swyddog canlyniadau etholaeth neu rywun a enwebir gan swyddog canlyniadau etholaeth yw £112.00.
(5) Yn ychwanegol at dreuliau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2), (3) and (4) yr uchafswm y gellir ei adennill, fesul sesiwn hyfforddi, o gostau swyddogion canlyniadau etholaeth yw £196.00.
(6) Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul clerc pleidleisio sy'n derbyn hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r clerc pleidleisio a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio.
8. Mae treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9 i 20 yn dreuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill mewn cysylltiad â hwy.
9. Mewn etholiad Cynulliad treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos —
(a)swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b)unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 18 o Orchymyn 2003;
(c)unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio;ac
(ch)unrhyw gynorthwyydd clerigol neu gynorthwyydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol.
10. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu gynhyrchu'r papurau pleidleisio fel arall.
11. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i argraffu neu gynhyrchu'r cardiau pleidleisio swyddogol fel arall ac unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r broses etholiadol ac mewn cysylltiad â hi (nad oes angen eu hargraffu neu eu cynhyrchu fel arall drwy neu o dan Orchymyn 2003) a danfon y cyfryw gardiau ynghyd â'r cyfryw ddogfennau i'r pleidleiswyr.
12. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu gynhyrchu fel arall a chyhoeddi, pan fo hynny'n briodol, ddogfennau a hysbysiadau eraill y mae'n ofynnol eu hargraffu , eu cynhyrchu neu eu cyhoeddi gan Orchymyn 2003 neu oddi tano.
13. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i rentu, gwresogi, goleuo a glanhau unrhyw adeilad neu ystafell.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 15, treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am addasu dros dro unrhyw adeilad neu ystafell a'i adfer i gyflwr addas at ddefnydd arferol.
(2) Mae treuliau at ddibenion is-baragraff (1) yn cynnwys treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am ddarparu bythau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio (y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais ynddynt wedi eu sgrinio o'r golwg) a'r cyfryw ddodrefn arall y byddo ei angen mewn gorsafoedd o'r fath.
15. Hanner cant y cant o dreuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am brynu rampiau dros dro i'w gosod mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn darparu mynediad i'r gorsafoedd pleidleisio hynny i bleidleiswyr â nam symudedd (er hynny gall fod gan y swyddog canlyniadau etholaeth hawl i unrhyw nawdd neu daliad mewn perthynas â phrynu rampiau o'r fath, ac nid yw'r cyfryw nawdd neu daliad i fod yn fwy na hanner cant y cant o gost pob ramp).
16. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am ddarparu blychau pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
17. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am gludo i ac o orsaf bleidleisio —
(a)y blychau pleidleisio a'r papurau pleidleisio, a
(b)y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
18. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am ddarparu papur ac offer ysgrifennu a thaliadau postio, ffonio a bancio ac amrywiol eitemau eraill.
19. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu fersiynau mawr o bapur pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy'n gweld yn rhannol a dyfeisiadau sy'n galluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod angen cymorth oddi wrth y swyddog llywyddu neu oddi wrth unrhyw gydymaith.
20. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn cysylltiad â darparu mesurau diogelwch.