xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3268 (Cy.298)

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2006

Yn dod i rym

8 Rhagfyr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003(1), ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn —

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2006.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “clerc pleidleisio” (“poll clerk”) yw person a benodir gan y swyddog canlyniadau etholaeth i helpu'r swyddog llywyddu i gynnal etholiad mewn gorsaf bleidleisio;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) a “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w dehongli yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2) ac Atodlen 1 iddi;

ystyr “etholiad cyffredin” (“ordinary election”) yw cynnal etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol ar gyfer dychwelyd pob aelod Cynulliad;

ystyr “etholiad Cynulliad” (“Assembly election”) yw etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol;

ystyr “etholiad etholaeth” (“constituency election”) yw etholiad i ddychwelyd aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Cynulliad;

ystyr “etholiad rhanbarthol” (“regional election”) yw etholiad i ddychwelyd aelodau Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholiadol Cynulliad;

ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003;

ystyr “swyddog canlyniadau etholaeth” (“constituency returning officer”) yw'r person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad etholaeth;

ystyr “swyddog canlyniadau rhanbarthol” (“regional returning officer”) yw'r person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad rhanbarthol;

ystyr “swyddog llywyddu” (“presiding officer”) yw'r person a benodir gan y swyddog canlyniadau etholaeth i oruchwylio gorsaf bleidleisio; ac

mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu'r cofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu'r cofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Manyleb at ddibenion erthygl 21 o Orchymyn 2003

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion erthygl 21(1)(a) o Orchymyn 2003, nodir drwy hyn y gwasanaethau neu'r treuliau canlynol ar gyfer etholiad Cynulliad neu mewn perthynas ag ef—

(a)gwasanaethau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) a 2(1) o'r Atodlen;

(b)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o'r Atodlen; ac

(c)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 9 i 20 o'r Atodlen.

(2Pan gynhelir, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas ag—

(a)gwasanaethau o fath a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) o'r Atodlen; a

(b)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 7(1) o'r Atodlen;

mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.

(3Mae paragraffau (4) i (6) o'r erthygl hon yn pennu'r uchafsymiau y gellir eu hadennill at ddibenion erthygl 21(2) o Orchymyn 2003 o ran y gwasanaethau a'r treuliau a bennir yn Rhannau I a II o'r Atodlen.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn etholiad Cynulliad a ymleddir, pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill ac a nodir yn yr Atodlen mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennir yn Rhannau I a II o'r Atodlen fel yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau hynny.

(5Ond pan geir mewn etholiad cyffredin mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio ar gyfer etholiad etholaeth ac ar gyfer etholiad rhanbarthol bydd unrhyw uchafswm y gellir ei adennill ac a bennir yn y Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r ddau etholiad mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno pan fyddai fel arall (heblaw am y paragraff hwn) yn cael effaith mewn perthynas â phob etholiad o'r fath.

(6Pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn etholiad Cynulliad nas ymleddir, sef—

(a)£475.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth o ran y gwasanaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen;

(b)£95.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y gwasanaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen;

(c)£1,173.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen; ac

(ch)£235.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen.

Dirymu

4.  Dirymir drwy hyn Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002(3) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

Dafydd Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2006

YR ATODLENGWASANAETHAU A THREULIAU Y CAIFF SWYDDOG CANLYNIADAU ETHOLAETH NEU SWYDDOG CANLYNIADAU RHANBARTHOL MEWN ETHOLIAD CYNULLIAD ADENNILL TALIADAU MEWN PERTHYNAS Å HWY

Erthygl 3

RHAN 1Gwasanaethau Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Pennir Uchafsymiau y Gellir eu Hadennill Mewn Perthynas â Hwy

Gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post

1.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth pan fydd yn cynnal etholiad Cynulliad ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio o ran personau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post).

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £2,600.00.

(3Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £1,362.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.

(4Mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £349.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.

(5Pan fo person mewn etholiad cyffredin yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng o £291.00 ar gyfer pob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri.

Gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol pan fydd yn cynnal etholiad rhanbarthol ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny.

(2Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol am y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,362.00.

RHAN IITreuliau Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Pennir Uchafsymiau y Gellir eu Hadennill Mewn Perthynas â Hwy

Talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad am y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnir o ran person sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) o ran y swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £158.00.

(3Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.

(4Pan geir mewn lle pleidleisio fwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 o ran un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw.

(5O ran swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys.

(6Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.

Talu clercod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio

4.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu clercod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £95 fesul clerc pledeisio.

(3Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.

(4Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.

Talu personau mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post etc

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post ac â'r cyfrif ac ag unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £11,200.00.

(3Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £10,080.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.

(4Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol ac eithrio etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo.

(5Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 pan geir pleidleisio, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.

(6Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £524.00 ar gyfer pob tro y caiff pleidleisiau eu hailgyfrif o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 2003.

(7Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £1,512.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003.

Talu personau mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion etholiad rhanbarthol

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.

(2Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,212.00.

Taliadau o ran hyfforddiant

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu swyddog canlyniadau etholaeth o ran treuliau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.

(2Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r swyddog llywyddu a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio.

(3Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraff (2) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi yw £140.00.

(4Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraffau (2) a (3) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio gan swyddog canlyniadau etholaeth neu rywun a enwebir gan swyddog canlyniadau etholaeth yw £112.00.

(5Yn ychwanegol at dreuliau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2), (3) and (4) yr uchafswm y gellir ei adennill, fesul sesiwn hyfforddi, o gostau swyddogion canlyniadau etholaeth yw £196.00.

(6Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul clerc pleidleisio sy'n derbyn hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r clerc pleidleisio a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio.

RHAN IIITreuliau Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol pan na Phennir unrhyw Uchafsymiau y Gellir eu Hadennill Mewn Cysylltiad â Hwy

Cyffredinol

8.  Mae treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9 i 20 yn dreuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill mewn cysylltiad â hwy.

Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos

9.  Mewn etholiad Cynulliad treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos —

(a)swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol;

(b)unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 18 o Orchymyn 2003;

(c)unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio;ac

(ch)unrhyw gynorthwyydd clerigol neu gynorthwyydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol.

Argraffu etc y papurau pleidleisio

10.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu gynhyrchu'r papurau pleidleisio fel arall.

Argraffu etc y cardiau pleidleisio a'r dogfennau ategol a'u danfon

11.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i argraffu neu gynhyrchu'r cardiau pleidleisio swyddogol fel arall ac unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r broses etholiadol ac mewn cysylltiad â hi (nad oes angen eu hargraffu neu eu cynhyrchu fel arall drwy neu o dan Orchymyn 2003) a danfon y cyfryw gardiau ynghyd â'r cyfryw ddogfennau i'r pleidleiswyr.

Treuliau argraffu etc dogfennau

12.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu gynhyrchu fel arall a chyhoeddi, pan fo hynny'n briodol, ddogfennau a hysbysiadau eraill y mae'n ofynnol eu hargraffu , eu cynhyrchu neu eu cyhoeddi gan Orchymyn 2003 neu oddi tano.

Treuliau rhentu etc unrhyw adeilad neu ystafell

13.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i rentu, gwresogi, goleuo a glanhau unrhyw adeilad neu ystafell.

Treuliau addasu unrhyw adeilad neu ystafell dros dro etc

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 15, treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am addasu dros dro unrhyw adeilad neu ystafell a'i adfer i gyflwr addas at ddefnydd arferol.

(2Mae treuliau at ddibenion is-baragraff (1) yn cynnwys treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am ddarparu bythau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio (y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais ynddynt wedi eu sgrinio o'r golwg) a'r cyfryw ddodrefn arall y byddo ei angen mewn gorsafoedd o'r fath.

15.  Hanner cant y cant o dreuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am brynu rampiau dros dro i'w gosod mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn darparu mynediad i'r gorsafoedd pleidleisio hynny i bleidleiswyr â nam symudedd (er hynny gall fod gan y swyddog canlyniadau etholaeth hawl i unrhyw nawdd neu daliad mewn perthynas â phrynu rampiau o'r fath, ac nid yw'r cyfryw nawdd neu daliad i fod yn fwy na hanner cant y cant o gost pob ramp).

Treuliau darparu blychau pleidleisio etc

16.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am ddarparu blychau pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.

Treuliau cludo blychau pleidleisio etc i ac o orsafoedd pleidleisio

17.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am gludo i ac o orsaf bleidleisio —

(a)y blychau pleidleisio a'r papurau pleidleisio, a

(b)y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.

Treuliau darparu papur ac offer ysgrifennu etc

18.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad am ddarparu papur ac offer ysgrifennu a thaliadau postio, ffonio a bancio ac amrywiol eitemau eraill.

Treuliau darparu fersiwn mawr o bapur pleidleisio etc

19.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu fersiynau mawr o bapur pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy'n gweld yn rhannol a dyfeisiadau sy'n galluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod angen cymorth oddi wrth y swyddog llywyddu neu oddi wrth unrhyw gydymaith.

Treuliau mewn perthynas â mesurau diogelwch

20.  Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn cysylltiad â darparu mesurau diogelwch.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 (O.S. 2003/284) (“Gorchymyn 2003”) mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill taliadau o ran gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw ar gyfer y cyfryw etholiad neu mewn cysylltiad ag ef yn dibynnu ar y canlynol, sef —

(a)mai gwasanaethau neu dreuliau ydynt o fath a nodir mewn Gorchymyn o dan y darpariaethau hynny;

(b)bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau wedi'u tynnu'n briodol; ac

(c)bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003 ac mae'n dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 (O.S. 2002/3053) (Cy.288) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 (O.S.2003/3117) (Cy.295). Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r cyfryw wasanaethau a threuliau y cyfeirir atynt uchod.

Mae Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn disgrifio'r mathau o wasanaethau a ddarperir gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn cysylltiad ag ef, ac y mae hawl gan y personau hynny i adennill taliadau mewn cysylltiad â hwy, ac mae'n nodi'r uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny.

Mae Rhannau II a III o'r Atodlen yn disgrifio'r mathau o dreuliau a dynnir gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn cysylltiad ag ef, ac y mae hawl gan y personau hyn i adennill taliadau mewn perthynas â hwy, ac mae'n nodi (yn achos Rhan II) yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r treuliau hynny.

(1)

Diwygiwyd O.S. 2003/284 gan O.S. 2006/884; fodd bynnag nid yw'r diwygiadau'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn.