Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodol) (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

3.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(1) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ar ôl rheoliad 24, mewnosoder y rheoliad canlynol—

24A.(1) At ddibenion cyflawni ymchwiliadau, yn unol ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32, er mwyn penderfynu ffynhonnell y sylweddau annymunol hynny a restrir yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno pan fydd trothwyon gweithredu a bennir yn yr Atodiad hwnnw wedi cael eu cyrraedd, caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac wrth ddangos, os gofynnir amdani, ddogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, fynd i mewn i unrhyw fangre (nad yw'n fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) lle mae gan y swyddog achos rhesymol dros gredu bod bwyd anifeiliaid yn cael neu wedi cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu, wedi'i roi ar y farchnad neu'n cael ei gadw er mwyn ei roi ar y farchnad, ei gynnwys mewn unrhyw gynnyrch arall neu ei ddefnyddio.

(2) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn —

(a)mynd â'r personau eraill hynny gydag ef y mae'r swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar;

(b)arolygu unrhyw beth y mae gan y swyddog hawl i'w arolygu o dan reoliad 24(5), ac

(c)cymryd sampl yn y fangre honno o unrhyw ddeunydd y mae'n ymddangos i'r swyddog sy'n fwyd anifeiliaid a weithgynhyrchwyd, a gynhyrchwyd, a roddwyd ar y farchnad neu y bwriedir ei roi ar y farchnad neu sy'n ddeunydd a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid.

(3) Os bydd swyddog awdurdodedig er mwyn cymryd sampl yn unol â pharagraff (2)(c) yn cymryd deunydd o un cynhwysydd neu fwy ohonynt y mae pob un ohonynt yn pwyso dim mwy na chwe chilogram, ac sydd wedi cael eu datgelu i'w gwerthu drwy fanwerthu, caiff perchennog y cynhwysydd neu'r cynwysyddion ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog awdurdodedig brynu'r cynhwysydd neu'r cynwysyddion ar ran yr awdurdod y mae'r swyddog yn gweithio iddo.

(4) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn yr un hawliau i gael gweld, arolygu a chopïo cofnodion, gan gynnwys cofnodion a gedwir ar gyfrifiadur neu a gynhyrchir ganddo, fel a bennir ym mharagraff (9)(a) a (b) a (10)(c) o reoliad 24.

(5) Mae paragraff (14) o reoliad 24 yn gymwys i'r pwer mynediad o dan y rheoliad hwn fel y mae'n gymwys i'r cyfryw bwerau o dan y rheoliad hwnnw.

(6) Ystyr Cyfarwyddeb 2002/32 yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) ar sylweddau annymunol mewn bwyd aneifiliaid, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC(3), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100(4), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC(5), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/86/EC(6), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/87/EC(7) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC(8).

(1Ym mharagraff (4) o reoliad 27, ar ôl yr ymadrodd “reoliad 24” mewnosoder “neu reoliad 24A”.

(2)

OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10.

(3)

OJ Rhif L151, 19.6.2003, t.38.

(4)

OJ Rhif L285, 1.11.2003, t.33.

(5)

OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44.

(6)

OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.16.

(7)

OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.19.

(8)

OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.44. Cyflwynodd y Gyfarwyddeb ddiwygio hon drothwyon gweithredu a'r gofyniad i ymchwilio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources