Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 20048

Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 200410 fel a ganlyn —

a

Yn lle rheoliad 22 (Adolygu ansawdd gweithrediad y cynllun) rhodder—

Adolygu Ansawdd y Gofal22

1

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i bob oedolyn sydd wedi'i leoli o dan y cynllun lleoli oedolion.

2

Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —

a

bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a

b

bod y person cofrestredig yn cael barn —

i

yr oedolion perthnasol;

ii

cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol;

iii

unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;

iv

gofalwyr lleoliad oedolion; a

v

y staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun,

ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.

3

Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —

a

oedolion perthnasol;

b

cynrychiolwyr oedolion perthnasol;

c

unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;

ch

gofalwyr lleoliad oedolion;

d

staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun; ac

dd

y Cynulliad Cenedlaethol.

Asesu'r Gwasanaeth22A

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o ansawdd gweithredu'r cynllun gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal sy'n cael eu darparu i oedolion perthnasol drwy'r cynllun.

2

O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysu am gydymffurfedd22B

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.

2

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).

3

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.

b

Yn lle rheoliad 21 (Cwynion) rhodder—

Cwynion21

1

Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol neu ofalwr lleoliad oedolion.

2

Rhaid i'r drefn gwyno fod yn briodol i anghenion oedolion perthnasol.

3

Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.

4

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y drefn gwyno a chymryd camau rhesymol i roi copi o'r drefn gwyno iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —

a

yr oedolion perthnasol;

b

cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol; ac

c

unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.

5

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y gofalwyr lleoliad oedolion a'r staff sy'n cael eu cyflogi at ddibenion y cynllyn yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r drefn gwyno.

6

Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys —

a

enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

b

y drefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.

7

Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.

8

Os yw'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

9

Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cynllun.

Ymdrin â chwynion21A

1

Rhaid i'r drefn gwyno a lunnir o dan reoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles yr oedolyn perthnasol yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r oedolion perthnasol.

2

Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.

3

Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd

4

Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.

5

Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.

6

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Datrysiad Lleol21B

1

Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith.

2

Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.

3

Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu llety i oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.

4

Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.

Ystyriaeth Ffurfiol21C

1

Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.

2

Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.

3

Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu lleoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn.

4

Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.

5

Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.

Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol21D

1

Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—

a

y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu

b

y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu

c

y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu

ch

y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu

d

yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.

2

Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

3

Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.

4

Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.

5

Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.

6

Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.