2006 Rhif 3100 (Cy.284)
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9 a 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021 yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006.
2
Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ceisydd” (“applicant”)—
- a
yn achos penderfyniad ar addasrwydd, yw darpar fabwysiadydd;
- b
yn achos penderfyniad i ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr “relevant person” yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;
- a
ystyr “cyfarfod adolygu” (“review meeting”) yw cyfarfod a gynullir yn unol â rheoliad 13 at ddibenion adolygu penderfyniad cymhwysol;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol ar gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 20002 neu ar gofrestr gyfatebol sy'n cael ei chadw o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “panel” (“panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr “penderfyniad ar addasrwydd” (“suitability determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr “penderfyniad cymhwysol” (“qualifying determination”) yw penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr “penderfyniad i ddatgelu” (“disclosure determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu3;
ystyr “y Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2005” (“the Independent Review Regulations 2005”) yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadau) (Cymru) 20054;
ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20055;
ystyr “y Rheoliadau Datgelu” (“the Disclosure Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 20056; ac
mae “y rhestr ganolog” (“the central list”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 4.
Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.3
At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, mae penderfyniad cymhwysol—
a
yn benderfyniad sydd wedi'i wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â Rheoliadau 2005 fel a ganlyn:
i
pan na fydd yr asiantaeth, o dan reoliad 28(4) o'r Rheoliadau Asiantaethau, yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
ii
pan fo'r asiantaeth o'r farn nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o'r Rheoliadau Asiantaethau.
b
yn benderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu7.
RHAN 2PANELAU
Cyfansoddi panelau4
1
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 11, gyfansoddi panel i adolygu'r penderfyniad cymhwysol.
2
Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o bersonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel.
3
Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys—
a
gweithiwr cymdeithasol o fewn ystyr “social worker” yn Rhan IV o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a hwnnw'n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwaith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd; a
b
personau eraill y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas i fod yn aelodau gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau â phrofiad personol o fabwysiadu.
Aelodaeth o'r Panelau5
1
Mwyafswm nifer y personau y caniateir eu penodi i banel yw pump.
2
Rhaid i banel gael ei gynghori:
a
gan weithiwr cymdeithasol o fewn ystyr “social worker” yn Rhan IV o'r Ddeddf Safonau Gofal gyda chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol;
b
gan ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu.
3
Pan fo'r panel yn credu fod hynny'n briodol, caiff ei gynghori gan
a
Cynghorydd Cyfreithiol â gwybodaeth ac arbenigedd mewn deddfwriaeth fabwysiadu;
b
Unrhyw berson arall y mae'r panel yn ystyried fod ganddo arbenigedd perthnasol o ran y penderfyniad sy'n cael ei ystyried.
4
Pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu'n benderfyniad i ddatgelu, mae'n rhaid i'r panel gynnwys o leiaf ddau berson sy'n dod o fewn rheoliad 4(3)(a).
5
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
a
penodi i gadeirio panel berson a chanddo'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gadeirio panel; a
b
yn achos panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd, penodi un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw swydd y cadeirydd yn wag.
6
Rhaid peidio â phenodi person i banel—
a
os yw'r person hwnnw'n aelod o banel mabwysiadu'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol;
b
os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud, yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd neu os yw neu os yw wedi bod yn aelod o'r awdurdod hwnnw;
c
os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn un o gyflogeion neu ymddiriedolwyr yr asiantaeth honno, neu os yw wedi bod yn un ohonynt yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud;
ch
os yw'r person hwnnw yn berthynas i berson sy'n dod o dan is-baragraff (a), (b) neu (c);
d
os yw'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda'r person hwnnw o fewn y ddwy flynedd diwethaf;
dd
os oedd y person hwnnw wedi'i gymeradwyo fel darpar fabwysiadydd o fewn y ddwy flynedd diwethaf gan yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol; neu
e
os yw'r person hwnnw yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.
7
Yn y rheoliad hwn—
a
mae “cyflogedig” (“employed”) yn cynnwys bod yn gyflogedig p'un ai am daliad neu beidio a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr; a
b
mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—
i
yn aelod o aelwyd person B, neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;
ii
yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B; neu
iii
yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person y person y mae person B yn briod ag ef neu hi neu y mae person B wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef neu hi;
Cyfarfodydd y panelau6
Bydd trafodion y panel yn cael eu hannilysu oni bai bod o leiaf bedwar o'i aelodau yn bresennol.
Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd7
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad ar addasrwydd.
2
Rhaid i banel—
a
adolygu'r penderfyniad ar addasrwydd; a
b
cyflwyno argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
3
Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—
a
rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
b
caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i ddarparu unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac
c
caiff y panel sicrhau'r cyngor cyfreithiol y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.
Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad i ddatgelu8
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad i ddatgelu.
2
Rhaid i banel adolygu'r penderfyniad i ddatgelu a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad i ddatgelu argymhelliad ynghylch a ddylai'r asiantaeth fwrw ymlaen â'i phenderfyniad gwreiddiol.
3
Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—
a
rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 13A o'r Rheoliadau Datgelu;
b
caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i roi unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac
c
caiff y panel sicrhau cyngor cyfreithiol o'r fath neu gyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr ganolog y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos; ac
ch
rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson mabwysiedig ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig, rhaid i les y plentyn hwnnw fod yn bwysicach na dim. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.
Gweinyddu'r Panelau9
Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd rhaid iddo wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.
Ffioedd aelodau panel10
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.
Cofnodion11
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhelliad ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad y mwyafrif, yn cael ei gadw—
a
am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad y cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno; a
b
o dan amodau diogelwch priodol .
RHAN 3Y WEITHDREFN
Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol12
1
Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.
2
Yn achos penderfyniad ar addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unig a gaiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.
Penodi panel a chynnal adolygiad13
Ar ôl cael cais sydd wedi'i wneud yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
hysbysu o fewn 5 niwrnod gwaith yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol fod y cais wedi'i wneud drwy anfon at yr asiantaeth gopi o'r cais;
b
anfon o fewn 5 niwrnod gwaith gydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r cais at y ceisydd a'i hysbysu o'r camau a gymerwyd o dan is-baragraff (a);
c
penodi panel o fewn 25 niwrnod gwaith yn unol â rheoliad 4 a phennu dyddiad, amser a lleoliad i'r panel gyfarfod at ddibenion cyfarfod adolygu;
ch
Ar ôl cymryd y camau a ragnodwyd yn is-baragraff (c), a heb fod yn llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer adolygu, hysbysu'n ysgrifenedig y ceisydd a'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol—
i
o'r ffaith bod y panel wedi'i benodi; a
ii
o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod adolygu;
2
Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
3
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y panel yn cael yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad cyn gynted ag y bo modd ond dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr adolygiad.
Argymhelliad y panel14
1
Pan na fydd argymhelliad y panel yn unfrydol, rhaid i'r argymhelliad fod yn argymhelliad y mwyafrif.
2
Caniateir i'r argymhelliad gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw yn ôl.
3
Rhaid i'r argymhelliad a'r rhesymau drosto ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad mwyafrif gael eu cofnodi'n ddi-oed mewn dogfen a gaiff ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.
4
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yn ddi-oed, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r argymhelliad yn cael ei wneud, gopi o'r argymhelliad a'r rhesymau drosto at y ceisydd ac i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol.
Gorchymyn i dalu costau15
Caiff y panel wneud gorchymyn i'r asiantaeth fabwysiadu y cafodd y penderfyniad cymhwysol a adolygwyd ei wneud ganddi dalu'r costau y mae'r panel yn eu hystyried yn rhesymol.
Diwygio Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 200516
1
Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 20058 wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
2
Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
mae i “asiantaeth fabwysiadu briodol” yr un ystyr ag “appropriate adoption agency” yn adran 65(1) o'r Ddeddf;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Ar ôl rheoliad 13 (Cofnod o sylwadau) mewnosoder y rheoliad canlynol—
Adolygu'n Annibynnol—13A
1
Mae'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (adolygu penderfyniadau'n annibynnol) —
a
peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir;
b
datgelu gwybodaeth i geisydd am berson pan fo'r person wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth;
c
peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd os yw'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth.
2
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw —
a
datgan y rhesymau dros y penderfyniad; a
b
hysbysu'r person perthnasol y caiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith, gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol.
3
Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y person perthnasol wedi gwneud cais am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd yr asiantaeth yr hysbysiad hwnnw, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —
a
copi o'r cais am ddatgelu gwybodaeth;
b
copi o'r hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2);
c
cofnod o unrhyw sylwadau a gafwyd gan yr asiantaeth o dan adran 61(3) o'r Ddeddf; ac
ch
unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gan y panel.
4
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio â chymryd unrhyw gamau yn unol â'i benderfyniad gwreiddiol—
a
cyn bod y panel adolygu annibynnol wedi cyflwyno ei argymhelliad; neu
b
os na fydd y person wedi gwneud cais am adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 20 niwrnod gwaith, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
5
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried unrhyw argymhelliad gan y panel adolygu annibynnol wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol.
6
Ym mharagraff (3)—
a
mae'r cyfeiriad at banel adolygu annibynnol yn gyfeiriad at banel a gyfansoddwyd at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf; a
b
ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
7
Yn y rheoliad hwn “y person perthnasol”—
a
yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(a) neu (c), yw'r ceisydd;
b
yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b) neu (c), yw'r person y mae'r wybodaeth a ddiogelir yn ymwneud ag ef.
Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod Penodedig17
1
O ran unrhyw gais gan ddarpar fabwysiadydd ar gyfer adolygad o benderfyniad cynhwysol a waned cyn y diwrnod Penodedig rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad a gymerwyd cyn y diwrnod Penodedig o dan ddarpariaeth o Reoliadau Adolygu Annibyynnol 2005, ar y diwrnod Penodedig neu ar ei ol, gael ei thrin neu'i drin fel pebai'n weithred neu'n benderfyniad o dan y ddardpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn.
2
Yn y rheoliad hun ystyr “diwrnod penodedig” yw 31 Rhagfyr 2006.
Dirymu18
Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 20059 drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)