Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Gorfodi

5.—(1O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt—

(a)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a

(b)rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(2O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau—

(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol—

(i)lladd-dai,

(ii)sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela, neu

(iii)safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a

(b)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfod a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(3O ran—

(a)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

(b)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,

rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan—

(a)Atodlenni 3 i 5; a

(b)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.

(5Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(1) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(2);

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995(3); ac

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995.

(1)

O.S. 1995/539, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1995/540, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1995/2148, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources