RHAN IVDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL
Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll25
1
Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
a
wrth weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; a
b
o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
2
Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.
3
Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—
a
wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; ond
b
y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
4
Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.