2006 Rhif 3098 (Cy.282)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar âl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 19971, â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (3), (4), (5) a (9) o'r Ddeddf honno2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.

2

Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas â chwestiwn perthnasol.

3

Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 19973 parthed a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu i grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hyn ac—

a

sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a

b

nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 20052

Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 20054, mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 19973

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 —

a

ym mharagraff (2), rhodder “£13,431” yn lle “£13,116”;

b

ym mharagraff (3), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—

a

£83 pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,470; a

b

£43 pan fo'r incwm hwnnw uwchlaw £12,470 ond nad yw uwchlaw £13,431.

3

Yn rheoliad 4 —

a

ym mharagraff (3), rhodder “£12,483” yn lle “£12,195” ; a

b

ym mharagraff (4), rhodder—

i

“£12,483” yn lle “£12,195”; a

ii

“£12,304” yn lle “£12,016”.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

Dafydd Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) ymhellach.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn perthnasol yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 i gael grant mewn perthynas â mân dreuliau cysylltiedig ag addysg plentyn a gynorthwyir mewn ysgol annibynnol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant gwisg ysgol ac yn cynyddu swm grant o'r fath sy'n daladwy ar gyfer gwariant ar ddillad sy'n codi yn y flwyddyn ysgol 2006/07. Mae £83 (yn hytrach nag £81 fel cynt) yn daladwy pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,470 (yn hytrach na £12,182) ac mae £43 (yn hytrach na £42) yn daladwy pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r ffigwr hwnnw ond nad yw uwchlaw £13,431 (yn hytrach na £13,116).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant teithio ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer gwariant teithio ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2006/07. Pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,483 (yn hytrach na £12,195), bydd unrhyw grant teithio yn swm cyfatebol i'r gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo. Pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw, swm y grant teithio fydd y swm, os bydd un, y bydd y gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo uwchlaw'r swm (wedi ei dalgrynnu i lawr i'r lluosrif agosaf o £3) sy'n cyfateb i un rhan o ddeuddeg o'r rhan o'r incwm perthnasol sydd uwchlaw £12,304 (yn hytrach na £12, 016).