2006 Rhif 3097 (Cy.281)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 19971, â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.

2

Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.

3

Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol” yw cwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ac—

a

sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a

b

nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 20052

Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 20053, mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un a gyfeirir at baragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 19973

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 19974 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,575” ym mhob man y'i gwelir rhodder “£1,625”.

3

Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, rhodder “£12,470” yn lle “£12,182”.

4

Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—

(1) Part of relevant income to which specified percentage applies

(2) Only assisted pupil (%)

(3) Each of two assisted pupils (%)

Each of three assisted pupils (%)

That part (if any) which exceeds £12,304 but does not exceed £13,380.

9

6.75

5.25

That part (if any) which exceeds £13,380 but does not exceed £14,472.

12

9

7

That part (if any) which exceeds £14,472 but does not exceed £16,637.

15

11.25

8.75

That part (if any) which exceeds £16,637 but does not exceed £19,977.

21

15.75

12.25

That part (if any) which exceeds £19,977 but does not exceed £24,331.

24

18

14

That part (if any) which exceeds £24,331

35

24.75

19.25

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 (“Rheoliadau 1997”) ymhellach.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn o beidio â chasglu yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 fel nas cesglir oddi wrtho ffioedd sy'n daladwy am addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.

Mae'r swm sydd i'w dynnu o'r incwm perthnasol o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,575 i £1,625.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf modd ar gyfer ad-dalu ffioedd: gosodir lefel yr incwm na chesglir y ffioedd, naill ai yn gyfangwbl neu'n rhannol, arno neu islaw iddo ar £12,470 yn lle £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yng ngraddau'r ad-daliadau pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw.