xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2992 (Cy.279) (C.106)

HAWLIAU TRAMWY, CYMRU

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

15 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 107(4)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(1):

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

Cychwyn Rhan 6 o'r Ddeddf

2.  Daw Rhan 6 (hawliau tramwy) o'r Ddeddf i rym ar 16 Tachwedd 2006.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2005 (“y Ddeddf”), sydd wedi'i ffurfio o adrannau 66 i 72 o'r Ddeddf.

Mae adrannau 66 i 71 o'r Ddeddf yn diwygio'r gyfraith o ran hawliau tramwy a cherbydau a yrrir yn fecanyddol.

Mae adran 66 yn cyfyngu ar greu hawliau tramwy i gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adran 67 yn terfynu rhai hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli ond sydd heb eu cofnodi ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adrannau 68 a 69 yn diwygio Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66). Mae adran 68 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhagdybio bod cilffordd gyfyngedig wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau priodol ar ôl 20 mlynedd o ddefnydd gan gerbydau (megis beiciau pedal) nas gyrrir yn fecanyddol. Mae adran 69 yn ymwneud â chyflwyniadau rhagdybiedig a cheisiadau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69), ac yn egluro, pan godir amheuaeth ynglŷn â hawl sydd gan y cyhoedd i ddefnyddio ffordd drwy gais am addasu'r map a'r datganiad diffiniol, bod y dyddiad y codir amheuaeth ynghylch hawl sydd gan y cyhoedd i'w drin fel y dyddiad y caiff y cais ei wneud. Mae adran 70 yn gwneud darpariaeth atodol ac mae adran 71 yn ddarpariaeth ddehongli.

Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus a baratoir ac y cedwir golwg arno gan yr awdurdod tirfesur ar gyfer yr ardal honno (sef y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfa'r cyngor ar bob adeg resymol.

Mae adran 72 yn mewnosod yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) (“Deddf 1984”) adrannau newydd, sef 22BB a 22BC, sy'n rhoi i awdurdod Parc Cenedlaethol bŵer i wneud gorchmynion rheoleiddio traffig a gorchmynion eraill sy'n ymwneud â thraffig o dan Ddeddf 1984 mewn perthynas â ffyrdd yn y Parc Cenedlaethol sydd naill ai'n gilffyrdd ar agar i bob math o draffig, yn llwybrau troed neu'n llwybrau ceffylau neu'n gerbytffyrdd anseliedig. Mae'r adrannau newydd yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud rheoliadau i addasu'r ffordd y cymhwysir Deddf 1984 mewn perthynas â gorchmynion penodol sy'n cael eu gwneud gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol o dan yr adrannau newydd. Nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu arfer y pwer hwn ar hyn o bryd.

Gellir cael esboniad manylach ar y darpariaethau yn y Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Ddeddf, sydd ar gael o'r Llyfrfa, Blwch Post 29, Norwich NR3 1GN (neu ar lein yn www.opsi.gov.uk).

Gwnaed o dan y Ddeddf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn y mae i rai o'u darpariaethau effaith yng Nghymru —