- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Cyn penderfynu apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda—
(a)peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i ryw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando yr apêl yn penderfynu felly); neu
(b)peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.
(2) Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.
(3) Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael gwrandawiad mewn gwrandawiad —
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod gorfodi; ac
(c)unrhyw berson (heblaw'r awdurdod gorfodi) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddo.
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.
(5) Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) (pwer y Cynulliad Cenedlaethol i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau neu i atgyfeirio materion sy'n gysylltiedig ag apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid iddo gynnwys casgliadau'r person penodedig a'i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: