Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2989 (Cy.278)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

15 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

10 Rhagfyr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 78A(9), 78C(8) i (10), 78E(1) a (6), 78G(5) a (6)(1), 78L(4)(2) a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”)(3) ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol(4), a chan yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan Reoliadau Tir a halogwyd yn ymbelydrd (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau Addasu”)(5) o ran niwed, i'r graddau y mae niwed i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 1990 sy'n dwyn y Rhif hwnnw, neu, o ran niwed sydd i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, i'r adran honno fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau Addasu; a

(b)o ran niwed, i'r graddau y mae i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae gan unrhyw derm a ddiffinnir gan Ddeddf 1990 yr ystyr a roddir iddo gan y Ddeddf honno fel y'i haddasir gan y Rheoliadau Addasu.

Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig

2.—(1At ddibenion adran 78C(8) rhagnodir tir halogedig a ddisgrifir fel a ganlyn yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig —

(a)tir sy'n effeithio ar ddyfroedd rheoledig yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3;

(b)tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu oddi tano;

(c)tir y cynhaliwyd unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg —

(i)puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu

(ii)gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;

(ch)tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad pan nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

(d)tir lle mae gweithgaredd wedi, neu yn cael, ei gynnal mewn gweithfan Rhan A(1) neu trwy gyfrwng gwaith symudol Rhan A(1) o dan drwydded, pan nad yw'r gweithgaredd yn cynnwys pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

(dd)tir o fewn safle niwclear;

(e)tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran —

(i)yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn,

(ii)y Cyngor Amddiffyn,

(iii)pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn, neu

(iv)awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad,

sef tir a ddefnyddir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;

(f)tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu —

(i)arfau cemegol,

(ii)unrhyw gyfrwng neu ddiocsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974(6) (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol), neu

(iii)unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),

ar unrhyw adeg;

(ff)tir sy'n fangre a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991(7) (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear);

(g)tir y mae adran 30 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1996(8) (tir a gedwir er budd Ysbyty Greenwich) yn gymwys ar ei gyfer;

(ng)tir sy'n dir wedi'i halogi'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhinwedd unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano, a

(h)tir —

(i)sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (ng) uchod; a

(ii)sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), mae “tarau asid gwastraff” yn darau —

(a)sy'n cynnwys asid sylffwrig;

(b)a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac

(c)sydd, neu a oedd, yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.

(3Ym mharagraff (1)(ch), mae i “awdurdodiad” a “proses ragnodedig” yr un ystyr ag “authorisation” a “prescribed process” yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).

(4Ym mharagraff (1)(d), mae i “gweithfan Rhan A(1), “gwaith symudol Rhan A(1)” a “trwydded” yr un ystyr â “Part A(1) installation”, “Part A(1) mobile plant” a “permit” yn Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000(9).

(5Ym mharagraff (1)(dd) uchod, ystyr “safle niwclear” yw—

(a)unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu

(b)unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono, ar ôl iddo ddiddymu neu ildio trwydded safle niwclear.

(6Ym mharagraff (5) mae i “trwydded safle niwclear”, “trwyddedai” a “cyfnod cyfrifoldeb” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence”, “licensee” a “period of responsibility” gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965(10).

(7At ddibenion paragraff (1)(e), dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu i'w drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.

(8Ym mharagraff (1)(e)—

  • ystyr “pencadlys rhyngwladol” a “corff amddiffyn” yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol, ac unrhyw gorff amddiffyn, a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 1964(11);

  • mae i “awdurdod lluoedd arfog” a “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “service authority” a “visiting force” yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(12).

(9Ym mharagraff (1)(f), mae i “arf cemegol” yr ystyr sydd i “chemical weapon” yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996(13), gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.

Llygru dyfroedd a reolir

3.  Yr amgylchiadau y mae rheoliad 2(1)(a) yn cyfeirio atynt yw—

(a)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir sy'n cael eu defnyddio, neu y bwriedir eu defnyddio, i gyflenwi dŵr i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(14) (y cyflenwad dŵr);

(b)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(15) (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu

(c)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac —

(i)pan fydd unrhyw un o'r sylweddau y mae llygru'r dyfroedd yn cael ei achosi ganddynt neu'n debygol o gael ei achosi ganddynt yn dod o fewn unrhyw un o'r teuluoedd neu'r grwpiau o sylweddau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, a

(ii)pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiannau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys hysbysiadau adfer

4.—(1Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—

(a)enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu iddo gael ei adnabod naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(c)dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B(3) i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig;

(ch)a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol oherwydd —

(i)bod y person wedi achosi neu, gan wybod, wedi caniatáu i'r sylweddau, neu i unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno neu oddi tano, neu

(ii)mai'r person yw perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;

(d)manylion y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;

(dd)y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

(e)rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;

(f)pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig dan sylw —

(i)mai felly y mae hi,

(ii)enw a chyfeiriad pob un person o'r fath, a

(iii)y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;

(ff)pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w wneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6) wedi'u cymhwyso;

(g)pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddatgan pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;

(ng)pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad —

(i)perchennog y tir halogedig o dan sylw, ac

(ii)unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;

(h)pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;

(i)pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

(j)y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o dramgwydd am iddo fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o ofynion yr hysbysiad;

(l)y cosbau y gellir eu cymhwyso ar gollfarnu am dramgwydd o'r fath;

(ll)enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac

(m)dyddiad yr hysbysiad.

(2Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—

(a)bod gan berson y'i cyflwynir iddo hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 78L;

(b)sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail y gellir apelio; ac

(c)bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.

Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo—

(a)unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78G(3) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

(b)unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

(c)os mai'r awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

(ch)os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.

(2Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

Iawndal am hawliau mynediad etc

6.  Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn pennu—

(a)o fewn pa gyfnod y caiff person sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2) wneud cais am iawndal am roi'r hawliau hynny;

(b)drwy ba ddull y caniateir gwneud cais o'r fath, a'r person y caniateir gwneud y cais iddo; ac

(c)drwy ba ddull y bydd swm yr iawndal hwnnw'n cael ei benderfynu,

ac mae'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag iawndal o'r fath.

Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer

7.—(1Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1) —

(a)bod yr awdurdod lleol, wrth benderfynu a yw'n ymddangos bod unrhyw dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig —

(i)wedi methu â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78A(2), (5) neu (6), neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi pennu, a hynny'n afresymol, y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig;

(b)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad —

(i)wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78E(5), neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd, a hynny'n afresymol, wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;

(c)bod yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2), bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

(d)bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6);

(dd)pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi —

(i)wedi methu â phenderfynu pa gyfran o'r gost a ddatganwyd yn yr hysbysiad y mae'r apelydd yn atebol i'w thalu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(7), neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;

(e)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi mynd yn groes i un o ddarpariaethau adran 78H(1) neu (3) (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;

(f)pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) mewn amgylchiadau pan na chydymffurfiwyd ag adran 78H(1) neu (3), na fyddai wedi bod yn rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau yn y tir, arno, neu oddi tano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

(ff)bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer a hynny heb i hysbysiad gael ei gyflwyno;

(g)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);

(ng)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);

(h)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

(i)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

(j)bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—

(i)wedi methu â rhoi sylw i unrhyw galedi y gallai'r adennill ei achosi i'r person y gellid adennill y gost oddi wrtho neu i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 78P(2), neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi dyfarnu, a hynny'n afresymol, y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;

(l)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);

(ll)nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn gyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud rhywbeth yn rhesymol ddigonol at y diben;

(m)bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth berthnasol fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);

(n)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB(16) (sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhyngweithio Rhan 2A o Ddeddf 1990 â deddfiadau eraill) ac mewn achos lle y dibynnir ar—

(i)is-adran (1) o'r adran honno, y dylai fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 27(17) gael eu harfer,

(ii)is-adran (3) o'r adran honno, y dylai fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59(18) gael eu harfer; neu

(o)y cafwyd rhyw fath o anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.

(2Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos —

(a)pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu ei fod yn berson priodol yn rhinwedd adran 78F(2) a bod y person hwnnw'n honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno;

(b)pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu

(c)pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.

(3Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg neu'r camgymeriad yn un o sylwedd.

Apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol

8.—(1Rhaid i apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad (“hysbysiad apêl”), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan —

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac

(c)a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno —

(a)copi ohono i'r canlynol—

(i)yr awdurdod gorfodi,

(ii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol,

(iii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad o apêl yn berson priodol, ac

(iv)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (a)(ii), (iii) neu (iv); ac

(c)copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.

(3Os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; ac ymdrinnir â'r apêl wedyn fel un y rhoddwyd y gorau iddi o'r dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 11(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

(5Pan roir y gorau i apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol

9.—(1Cyn penderfynu apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda—

(a)peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i ryw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando yr apêl yn penderfynu felly); neu

(b)peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.

(2Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.

(3Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael gwrandawiad mewn gwrandawiad —

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod gorfodi; ac

(c)unrhyw berson (heblaw'r awdurdod gorfodi) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddo.

(4Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.

(5Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(19) (pwer y Cynulliad Cenedlaethol i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau neu i atgyfeirio materion sy'n gysylltiedig ag apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid iddo gynnwys casgliadau'r person penodedig a'i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 9(5).

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r awdurdod gorfodi ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Addasu hysbysiad adfer

11.—(1Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) (apelau yn erbyn hysbysiadau adfer) mewn unrhyw fodd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddynt, o'r addasiad arfaethedig;

(b)caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; a

(c)caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael eu gwrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.

(2Pan wrandewir ar yr apelydd neu ar unrhyw berson arall, yn unol â pharagraff (1), bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael gwrandawiad hefyd.

Atal hysbysiad adfer

12.—(1Pan gyflwynir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.

(2Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1) ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(1) a (2).

Cofrestrau

13.—(1At ddiben adran 78R(1) (cofrestrau), pennir y manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr is-adran honno yn Atodlen 3.

(2Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) yn wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo;

(b)enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer;

(c)disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac

(ch)y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.

(3Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion adran 78R(8) yn lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—

(a)os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, ei brif swyddfa; a

(b)os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.

Dirymu

14.  Caiff Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001(20) eu dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2006

Rheoliad 3(c)

ATODLEN 1SAFLEOEDD ARBENNIG

1.  Y teuluoedd a'r grwpiau o sylweddau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(i) yw'r canlynol—

(a)cyfansoddion organohalogen a sylweddau a all ffurfio cyfansoddion o'r fath yn yr amgylchedd dyfrol;

(b)cyfansoddion organoffosfforws;

(c)cyfansoddion organotin;

(ch)sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo;

(d)mercwri a'i gyfansoddion;

(dd)cadmiwm a'i gyfansoddion;

(e)olew mwynol a hydrocarbonau eraill;

(f)syanidau.

2.  Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—

(a)Crag Norwich Pleistosenaidd;

(b)Sialc Cretasaidd Uchaf;

(c)Tywodfeini Cretasaidd Isaf;

(ch)Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf;

(d)Calchfeini Jurasig Canol;

(dd)Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf;

(e)Grwp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;

(f)Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf;

(ff)Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf;

(g)Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf;

(ng)Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf;

(h)Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.

Rheoliad 6

ATODLEN 2IAWNDAL AM HAWLIAU MYNEDIAD ETC

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(22);

ystyr “grantwr” (“grantor”) yw person sydd wedi rhoi, neu wedi ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2); ac

ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y rhoddwyd hawliau allan ohono yn unol ag adran 78G(2).

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais

2.  Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)deuddeng mis ar ôl dyddiad rhoi'r hawliau hynny;

(b)pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 12, deuddeng mis ar ôl dyddiad y penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau i'r apêl; neu

(c)chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.

Dull gwneud cais

3.—(1Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno, neu ei anfon drwy bost ragdaledig, i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.

(2Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais,—

(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal ar ei gyfer, ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; a

(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4, a chan ddangos sut y cyfrifwyd pob swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a (5)(b), mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G(5) am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

(a)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o'r grant hawliau;

(b)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau;

(c)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac —

(i)y gellir ei briodoli i'r grant hawliau neu i arfer yr hawliau hynny,

(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw, a

(iii)sy'n golled neu'n ddifrod o fath y mae iawndal am aflonyddu, neu am unrhyw fater arall nad yw wedi'i seilio'n uniongyrchol ar werth y buddiant hwnnw, yn daladwy mewn cysylltiad â hwy ar gaffael gorfodol;

(ch)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a

(d)colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal

5.—(1Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G(5).

(2Bydd y rheolau a nodir yn adran 5(23) o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(3Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.

(4Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d), cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.

(5Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais —

(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; ac

(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).

(6Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.

Talu iawndal a phenderfynu dadleuon

6.—(1Rhaid i iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G(5) mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

(2Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy —

(a)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad unigol i'w wneud ar ddyddiad penodedig, ar y dyddiad hwnnw;

(b)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac

(c)ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.

(3Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

(4Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2(24) a 4 o Ddeddf 1961 (sy'n darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys —

(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2(1) o'r Ddeddf honno at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn; a

(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.

Rheoliad 13(1)

ATODLEN 3MANYLION A RAGNODIR AT DDIBEN ADRAN 78R(1)

Hysbysiadau Adfer

1.—(1Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi —

(a)enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(c)y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd;

(ch)y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

(d)defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw;

(dd)yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; a

(e)dyddiad yr hysbysiad.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer

2.  Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi.

3.  Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Datganiadau adfer

4.  Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).

5.  Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath —

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

Mynegiad adfer

6.  Unrhyw fynegiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).

7.  Mewn perthynas ag unrhyw fynegiad adfer o'r fath —

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

(b)materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl

8.  Unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi.

9.  Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Dynodi safleoedd arbennig

10.—(1Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal—

(a)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan awdurdod lleol o dan adran 78C(1)(b) neu (5)(a), neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78D(4)(b), sy'n cael effaith o ran dynodi unrhyw dir yn safle arbennig, yn rhinwedd adran 78C(7) neu adran 78D(6);

(b)y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd;

(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac

(ch)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.

Hysbysu adferiad honedig

11.  Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod gorfodi at ddibenion adran 78R(1)(h) neu (j).

Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M

12.  Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.

Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)

13.  Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan adran 78V(1) ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.

Rheolaethau amgylcheddol eraill

14.  Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)(25) rhag cyflwyno hysbysiad adfer —

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac

(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27(26) neu trwy gamau gorfodi (o fewn ystyr adran 78YB(2C)(27)), tuag at adfer unrhyw niwed sylweddol, niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.

15.—(1Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac

(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod gorfodi yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59(28), mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, ac mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)(29)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.

16.  Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—

(a)y cydsyniad;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac

(c)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2197 (Cy.157)) (“Rheoliadau 2001”) ac, yn ogystal â gwneud darpariaeth debyg i'r un a wnaed yn Rheoliadau 2001, yn gwneud, o ran Cymru, ddarpariaeth sy'n hafal i'r un a wnaed o ran Lloegr ym mharagraff 50 o Atodlen 10 i Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ac mae'n nodi darpariaethau pellach ynghylch adnabod ac adfer tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiad ychwanegol o dir halogedig y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig: sef tir sy'n dir halogedig o ganlyniad i sylweddau ymbelydrol yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu darpariaethau sy'n gysylltiedig ag apelau i lys ynadon yn erbyn hysbysiadau adfer, o ganlyniad i ddiwygiadau i adran 78L o Ddeddf 1990 a wnaed gan adran 104 o Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16).

Mae rheoliadau 2 a 3 ac Atodlen 1 yn nodi'r categorïau hynny o safleoedd (a elwir yn “safleoedd arbennig”) y mae Asiantaeth yr Amgylchedd i fod yn awdurdod gorfodi ar eu cyfer. Awdurdodau lleol yw'r awdurdod gorfodi o ran unrhyw safle o fath arall.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys “hysbysiadau adfer” ac ar gyfer cyflwyno copïau ohonynt: sef hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi beth sydd i'w wneud o ran adfer, ac o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth o ran yr iawndal sydd i'w dalu'n unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu sy'n uno ag eraill i roi, hawliau mynediad etc sy'n ofynnol i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer.

Mae rheoliadau 7 i 12 yn gwneud darpariaeth o ran apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn i'w dilyn.

Mae rheoliad 13 ac Atodlen 3 yn rhagnodi manylion materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu gosod ar gofrestr a gedwir gan awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae Rheoliad 14 yn dirymu Rheoliadau 2001.

(1)

Mae adran 78G(6) yn darparu y caiff rheoliadau a wnaed o dan is-adran 78G(5) wneud y cyfryw ddarpariaeth o ran iawndal ag y caniateir ei gwneud gan reoliadau yn rhinwedd adran 35A(4) o Ddeddf 1990 o ran iawndal o dan yr adran honno.

(2)

Diwygiwyd is-adran (4) o adran 78L gan Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adrannau 104 a 107, a Rhan 10 o Atodlen 5.

(3)

1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o “prescribed” ac o “regulations” yn adran 78A(9).

(4)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.

(10)

1965 p.57.

(11)

1964 p.5.

(12)

1952 p.67.

(13)

1996 p.6.

(14)

1991 p.56.

(15)

1991 p.57.

(16)

Diwygiwyd adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan I, paragraffau 2 a 6.

(17)

Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.

(18)

Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).

(19)

1995 p25.

(21)

1998 p.38.

(22)

1961 p.33.

(23)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.43), adrannau 70 ac 84, Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 19, Rhan 3.

(24)

Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65), adran 193 ac Atodlen 33, paragraff 5.

(25)

Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.

(26)

Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.

(27)

Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.

(28)

Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).

(29)

Diwygiwyd is-adran (3) o adran 30 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adrannau 22(3) a 66(8) ac Atodlen 9, paragraff 17(3) ac Atodlen 18.