Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2986 (Cy.276)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

14 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

16 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 25(7), 104(1), a (4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraffau 4(1)(a) o Atodlen 4, 7(1)(a) a (4) o Atodlen 5, a 10(1)(a) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno a phob pŵer arall sy'n ei alluogi i wneud hynny, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006 a byddant yn dod i rym ar 16 Tachwedd 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.  Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(2) (Cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o lety diogel mewn cartref plant) wedi'i ddirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Tachwedd 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(4) drwy ddirymu rheoliad 3 o'r Rheoliadau hynny i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru. Mae'r rheoliad hwn yn darparu nad yw llety mewn cartref plant yng Nghymru i'w ddefnyddio fel llety diogel oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer defnydd o'r fath. Trosglwyddwyd y swyddogaeth o gymeradwyo llety diogel i blant, sy'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999(5).

(1)

p.41. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad, Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf 1989 yn Atodlen 1 iddo.

(5)

Trosglwyddwyd y swyddogaeth gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).