ATODLEN 1TANWYDDAU AWDURDODEDIG
7
Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
a
sy'n cynnwys 10 i 15 y cant o lo meddal, 10 i 15 y cant o olosg petrolewm, 70 i 80 y cant o lwch glo caled a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;
c
sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac
ch
nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9 y cant o sylffwr pan fyddant yn sych.