ATODLEN 1TANWYDDAU AWDURDODEDIG
6
Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special) a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—
a
sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr sydd wedi'i seilio ar starts (sef gweddill y pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;
c
sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
ch
nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.