Search Legislation

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2

ATODLEN 1TANWYDDAU AWDURDODEDIG

1.  Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef 60 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo isel ei anweddolrwydd a golosg adweithiol (sef 20 i 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

2.  Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire —

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)yn frics glo ar siâp gobennydd gydag un llinell wedi'i hindentio ar un ochr a dwy linell wedi'u hindentio ar yr ochr arall ac sy'n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

3.  Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire —

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at ryw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp clustog heb eu marcio ac sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

4.  Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef 20 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef 40 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef 12 i 22 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

5.  Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef rhyw 45 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân, rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, a chyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

6.  Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special) a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr sydd wedi'i seilio ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

7.  Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys 10 i 15 y cant o lo meddal, 10 i 15 y cant o olosg petrolewm, 70 i 80 y cant o lwch glo caled a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9 y cant o sylffwr pan fyddant yn sych.

8.  Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

(a)sy'n cynnwys cwyr paraffin (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef rhyw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef rhyw 1 y cant o'r cyfanswm pwysau) a dŵr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c)y mae iddynt drawstoriadau cwadrant o ryw 80 milimetr o radiws, ac sy'n rhyw 265 milimetr o hyd gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl, ac sy'n pwyso rhyw 1.15 cilogram; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

9.  Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)sy'n cynnwys golosg glo meddal (sef rhyw 45 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 110°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

10.  Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, yn ymyl Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

11.  Golosg a weithgynhyrchir gan—

(a)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, a'i werthu fel “Sunbrite”;

(b)Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire a'i werthu fel “Sunbrite” neu “Monckton Boiler Beans”;

(c)Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland a'i werthu fel “Redcar Coke Nuts (Doubles)”; a

(ch)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf a'i werthu fel “Cwm Coke Doubles”.

12.  Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos—

(a)yn cynnwys golosg caled o faint penodol (sef rhyw 45 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)wedi'i weithgynhyrchu o'r cyfansoddion hynny drwy eu cyfuno;

(c)o hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

13.  Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd wedi eu marcio â'r llythyren “T” ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

14.  Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

15.  Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt B.V., Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd—

(a)sy'n cynnwys cwyr petrolewm sydd wedi'i seilio ar fwynau (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef rhyw 45 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân rhyw 320 milimetr eu hyd, 90 milimetr eu huchder a 85 milimetr eu lled, yn pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

16.  Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 96 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio mewn dau faint sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

17.  Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft mbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 95.5 y cant o'r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)sy'n frics glo ariannaidd siâp clustog â'r llythrennau “S” a “J” wedi'u marcio arnynt ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)sy'n cynnwys rhyw 1.2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

18.  Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)sy'n cynnwys llychau Cymreig wedi'u golchi (sef rhyw 92 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr pyg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 330°C;

(c)sy'n siâp ofoid â thair llinell ar un ochr a'r ochr arall yn llyfn ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 0.8 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

19.  Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sydd, fel brics glo gorffenedig, yn cynnwys nid llai na 9 y cant ac nid mwy na 15 y cant o fater anweddol o'r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych;

(ch)sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; a

(d)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

20.  Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 17 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 13 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

21.  Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 50 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 17 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

22.  Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm;

(b)a weithgynhyrchwyd o'r golosg petrolewm drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)sy'n hapsiapiau heb eu marcio ac sy'n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

23.  Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 30 i 50 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm Long Beach (sef rhyw 50 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr carbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 150°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

24.  Long Beach Lump nuts (a elwir fel arall yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef rhyw 85 i 100 y cant o'r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)o hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

25.  Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)sy'n frics siâp clustog wedi'u marcio â'r llythyren “M” ac sy'n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

26.  Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 80 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

27.  Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

28.  Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp ofoid â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

29.  Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—

(a)sy'n cynnwys sglodion pren (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr cwyr palmwydden (sef rhyw 45 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys gwasgu'r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar ryw 40°C i 50°C;

(c)sy'n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy'n gorgyffwrdd yn yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor yn yr wyneb isaf, ac sy'n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

30.  Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef rhyw 21 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c)sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

31.  Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

32.  Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—

(a)sy'n cynnwys golosg metelegol (sef rhyw 40 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu cyfuno a'u sgrinio;

(c)sy'n hapsiapiau heb eu marcio; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.95 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

33.  Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 240°C;

(c)sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

34.  Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys cyfuniad (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef rhyw 93 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

35.  Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 36 i 51 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

36.  Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 80 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd sydd wedi'u marcio ag un llinell wedi'i hindentio yn rhedeg yn hydredol ar hyd pob wyneb yn gorwedd 10 milimetr oddi wrth y llinell gyfatebol, neu heb eu marcio, ac sydd yn y naill achos a'r llall yn pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

37.  Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 90 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(d)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

38.  Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef rhyw 42 y cant o'r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef rhyw 3.2 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

39.  ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef rhyw 41 i 42 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân, rhyw 265 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

40.  ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk B.V., Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef rhyw 40 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: