- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, caiff eu dosbarthu fel tatws hadyd o unrhyw un o'r dosbarthiadau a bennir yng ngholofn 1 o dabl 1 pan fo wedi'i fodloni yn sgil archwiliad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni.
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Dosbarth | Gofynion |
TC cyn-sylfaenol | (1) Rhaid i'r tatws hadyd— (a)bod yn deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu; a (b)bod wedi eu cadw rhag— (i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys, (ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn, (iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a (iv)sgrwff yn y pridd |
Cyn-sylfaenol 1 | (2) Rhaid i'r tatws hadyd— (a)bod yn deillio— (i)o stoc cenhedlol neu o gloron a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu; (ii)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel TC cyn-sylfaenol yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu (iii)unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a (b)bod wedi eu cadw rhag— (i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys, (ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn, (iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a (iv)sgrwff yn y pridd. |
Cyn-sylfaenol 2 | (3) Rhaid i'r tatws hadyd— (a)bod yn deillio— (i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 1 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu (ii)unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a (b)bod wedi eu cadw rhag— (i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys, (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn, (iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a (iv)sgrwff yn y pridd. |
Cyn-sylfaenol 3 | (4) Rhaid i'r tatws hadyd— (a)bod yn deillio— (i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu (ii)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a (b)bod wedi eu cadw rhag— (i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys, (ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn, (iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a (iv)sgrwff yn y pridd. |
Cyn-sylfaenol 4 | (5) Rhaid i'r tatws hadyd— (a)bod yn deillio— (i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 3 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu (ii)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a (b)bod wedi eu cadw rhag— (i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys, (ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn, (iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a (iv)sgrwff yn y pridd. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: