- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio tatws hadyd o ddosbarth TC cyn-sylfaenol onid yw lleiafswm eu maint yn eu rhwystro rhag mynd drwy rwyll sgwâr 25 o filimetrau x 25 o filimetrau.
(2) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd mewn lot pan fo mwyafswm yr amrywiad rhwng cloron yn gyfryw a bod y gwahaniaeth rhwng y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir yn fwy na 25 o filimetrau.
(3) Mae gofynion paragraff (2) i gael eu trin fel petaent wedi eu bodloni cyhyd ag nad oes mwy na thri y cant o bwysau cyfan y cloron yn y lot yn cynnwys—
(a)cloron sy'n llai na'r maint lleiaf a ganiateir; neu
(b)cloron sy'n fwy na'r maint mwyaf a ganiateir.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “y maint lleiaf a ganiateir” (“the lower size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen leiaf drwyddi; ac
(b)ystyr “y maint mwyaf a ganiateir” (“the upper size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen fwyafa drwyddi;
(5) Pan fo'n ofynnol datgan maint tatws hadyd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid datgan—
(a)mesuriadau sgwariau'r rhwyll nad elo'r cloron drwyddi, pan mai'r un yw'r maint lleiaf a ganiateir â'r maint mwyaf a ganiateir; neu
(b)y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir pan fo'r rhain yn wahanol i'w gilydd.
(6) At ddibenion paragraff (5), mae mesuriadau o fwy na 35 o filimetrau i gael eu datgan at y pum milimetr agosaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: